Byw gyda Motor Niwron: Gwobr yn rhoi'r 'wefr fwyaf'
- Cyhoeddwyd
Ddydd Iau bydd Gwenda Owen o Ruthun yn derbyn gwobr am ei chyfraniad sylweddol i fywyd ieuenctid Cymru.
Mae Gwenda - cyn-athrawes a phennaeth ysgol a mam i dri o fechgyn - yn byw gyda'r clefyd Motor Niwron.
Yma mae'n siarad yn onest am ei phrofiadau o fyw gyda'r cyflwr.
Blwyddyn a thri mis yn union ers y deiagnosis. Blwyddyn a thri mis chwyldroadol. Fy myd ben i waered a thîn dros ben.
Adeg yma llynedd oeddwn yn dal i warchod. Adeg yma llynedd aethon ni ar "crŵs" i Ffrainc a Gogledd Sbaen.
Heddiw? Yn gaeth i'r gader olwyn, methu cerdded, methu sefyll ac yn gorfod cael help llaw yn y tŷ bach. Embarasin!
Ond mae 'na fôr o gariad yn fy nghynnal.
Môr o gariad fel yr hogia sy'n llythrennol yn fy nghario (o'r gader i'r car). Y wyrion a'r wyresa yn rhannu fy ngwely (sengl - weithia pedwar ar y tro), yn bwyta creision, fferins, hufen iâ, ac yn mynnu neud wheelies 360 digrîs ar y gader olwyn.
Ffrindia - (tisho siopa, golchi, smwddio?) Dwi byth yn gwrthod smwddio - eni taim genod!
Y gymuned, y gymdeithas, cymdogion, y capal, fy ngenod - 'swn i ar goll hebddoch!
O ia! A John O! J.O. 'di prynu car newydd - Berlingo - ddim i'w gymysgu hefo Bingo! Ramp yn dod i lawr yn y cefn a minne yn wisio i fyny yn y gader drydan!
Rhaid cofio ein bod yn y cyfnod "torri dannedd" a fy mod i efo llond ceg o Bonjela a Farley's Rusks ar hyn o bryd!
Erbyn hyn dwi'n eistedd yn y cefn - ac yn rêl bac sît dreifar! Mae John yn gorfod gweithio'n galed i fy "nghloi" yn y gader ar y llawr. Sdress!
Ond dwi'n rhyfeddu at ddawn J.O. o dyfu cyrn o'i ben pan mae o tu ôl i'r olwyn! Dwi'n siŵr petai o ddim yn weinidog buasai yn y ceir rasio fel Lewis Hamilton neu Stirling Moss yn Silverstone neu Le Mans!
Addasu ydi'r gair allweddol.
Gan fy mod i'n eistedd yn y cefn - a John (sy'n drwm ei glyw neu "selective hearing") ddim yn clywed fi'n arthio'n y cefn. "Slofa!" Teimlo fel 50 mya. "Dim ond 20 dwi'n neud." Ia, wel!
Ond mae'r Bingo yn neud bywyd yn ddeniadol, annibynnol, rhyddid ac yn haws o lawer! Dwi'n lwcus - ac yn ddiolchgar.
'Bywyd yn werth i fyw'
Ond wyddoch chi be sy wedi codi 'nghalon i? Neud bywyd yn werth ei fyw? Y wefr fwya mywyd i? Ennill tlws John a Ceridwen Hughes am fy ngwaith gyda'r Urdd.
Gwaith? Dim o gwbwl! Wedi bod yn aelod ers yn saith oed!
Ac wedi mwynhau pob agwedd o'r gwaith, boed yn aelod cystadleuol (côr Ysgol Glan Clwyd Gilmor Griffiths), cael fy hyfforddi yn blentyn (capel Bethel, Dyserth), fy hogia'n cystadlu yn ifanc, cael rhaff gan Dafydd Roberts a'i olynydd Rhys Meirion yn Ysgol Pentrecelyn; ymgomau, partïon llefaru, sgriptio cyflwyniada dramatig, a chario ymlaen gyda'r un profiadau yn Ysgol Llandrillo.
Dyna yw fy niléit!
Ddim ots am ennill (wel…), ond rhoi profiad i blant ydi'r nod pwysica genna i.
Dwi'n teimlo'n wylaidd ond yn browd iawn. Ac yn ddiolchgar. Tydi bywyd yn werth i fyw.