Llais y Llywydd: Yr actores Siân Reese Williams
- Cyhoeddwyd
Er i Siân Reese Williams gael ei geni yng Nglanaman, symudodd gyda'i theulu i fyw i Aberhonddu pan roedd yn bedair oed.
Aeth ymlaen i astudio Drama ym Mhrifysgol Hull cyn hyfforddi mewn actio yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.
Yn 2008, wedi rhai blynyddoedd yn y theatr, ymunodd â chast Emmerdale, lle bu'n chwarae rhan Genesis Walker tan 2013.
Ers hynny mae Siân wedi i'w gweld yn nhrydedd cyfres Y Gwyll, a 35 Diwrnod ar S4C.
Yn ddiweddar, bu'n serennu yn y gyfres dditectif Craith, fydd yn cael ei darlledu fel Hidden ar y BBC yr wythnos nesaf, a hefyd yng nghynhyrchiad BBC/Netflix - Requiem.
Beth yw dy atgof cyntaf/hoff atgof o'r Urdd?
Fy atgof cynta' o'r Urdd oedd cystadlu yn yr unawd dan wyth oed pan roeddwn i'n bedair oed, a bod yn rhy fach i ddringo i'r sedd ar gefn y llwyfan. Nes i ddim ennill...
Disgrifia'r profiad o gystadlu yn yr Eisteddfod i berson o'r gofod.
Fel y Triwizard Tournament yn Harry Potter, heb yr hud a lledrith.
Yw'r profiad o gystadlu wedi bod o fudd yn dy fywyd proffesiynol?
Mae'n bendant wedi dysgu fi sut i ddelio gyda'r elfen gystadleuol. A sut i ddelio gyda cholli allan i bobl eraill - sydd yr un mor bwysig â llwyddiant.
Pa gystadleuaeth newydd hoffet ti weld yn rhan o'r Eisteddfod?
Ensemble sioe gerdd - mae'r posibiliadau'n ddiddiwedd!
Disgrifia ardal Brycheiniog a Maesyfed i bobl sydd erioed wedi bod yna o'r blaen.
Lle prydferth, yn llawn pobl gyfeillgar sy'n gweithio'n galed i ddod â'r iaith Gymraeg i'r gymdeithas. A mynyddoedd!
Beth, yn dy farn di, yw'r peth gorau am yr Urdd?
Y cyfle i gwrdd â phobl ifanc o bob cornel o'r wlad, a'r ffaith ein bod ni'n dod at ein gilydd yn enw'r celfyddydau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Mai 2018
- Cyhoeddwyd28 Mai 2018