Y crïwr tref sy'n hybu'r Gymraeg yn Sir y Fflint
- Cyhoeddwyd
Os oes yna grïwyr tref dwyieithog arall yng Nghymru, mae Chris Baglin eisiau clywed ganddyn nhw.
Mae Chris newydd ei benodi yn grïwr tref (town crier) i Gyngor Tref Treffynnon ac mae eisiau gwybod ai fo ydi'r unig un sy'n gweiddi "Gosteg!" a "Clywch, clywch!" yn ogystal ag "Oyez, oyez".
"'Nes i gymryd rhan mewn cystadleuaeth i gael y swydd ddiwedd Ebrill," meddai Chris.
"Roedd yn rhan o ŵyl oedd yn digwydd yn Nhreffynnon i ddathlu gwybodaeth a chymdeithasau lleol ac roedden nhw eisiau rhywbeth i gyd-fynd efo'r syniad o adael i bobl wybod am bethau felly daeth y cyngor tref i fyny efo'r syniad o gystadleuaeth i gael crïwr tref newydd.
"Cyn y gystadleuaeth mi wnes i wneud ymchwil i'r ochr Gymraeg. Ar y diwrnod, roedd y gri roedden ni wedi ei chael yn uniaith Saesneg a mi wnes i gyfieithu fo ar y pryd wrth fynd ymlaen: fi oedd yr unig un wnaeth hynny a falle bod hyn o mhlaid i."
Efallai bod ei hyfforddiant fel actor ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi bod yn help hefyd.
"Mae gen i lais mawr dwi wedi ei ddatblygu dros y blynyddoedd - hanner naturiol a hanner hyfforddiant fel actor," meddai Chris, sydd hefyd yn gweithio i Fenter Iaith Fflint a Wrecsam ac yn gyn athro. Mae hefyd yn gweithio fel diddanwr plant dan yr enw Professor Llusern.
"Mae'r swydd yn rhoi cyfle i fi berfformio o flaen pobl, er mod i'n berson andros y swil yn gyffredinol."
Ers talwm, y crïwr tref oedd yn gyfrifol am ddod â newyddion neu wybodaeth i bobl leol, swydd bwysig mewn cyfnod pan nad oedd llawer o bobl yn gallu darllen.
Erbyn hyn, mae hi'n swydd fwy seremonïol meddai Chris.
Un o'i ddyletswyddau yw cyhoeddi agoriad cyfarfodydd y cyngor ac mae'n gynrychiolydd mewn gwyliau a digwyddiadau lleol.
Cefnogaeth i'r iaith
Ychydig o drefi sydd â chrïwr tref bellach ond penderfynodd cyngor tref Treffynnon benodi un er mwyn hybu'r dref.
Ond mae hi'n rôl bwysig o ran hyrwyddo'r Gymraeg hefyd i Chris, sy'n byw ym Mostyn, Sir y Fflint ond o Drefor yng Ngwynedd yn wreiddiol.
"Rydyn ni'n ardal sydd ddim mor Gymreig a hynny [o ran yr iaith], er bod na bocedi o siaradwyr, ac mae pobl yn gefnogol i'r iaith," meddai.
"Ond mae 'na lot o bobl sydd ddim yn gyfforddus yn ei defnyddio hi a 'falle bod gennyn nhw ofn gwneud camgymeriad.
"Fydda i'n ffeindio weithiau bod pobl ddim eisiau trosi pethau rhag ofn iddyn nhw wneud camgymeriad lle dwi'n meddwl, rhowch dro arni - rydyn ni'n gwerthfawrogi'r ffaith eich bod chi wedi trio - dwi ddim yn poeni os nad ydi pethau'n berffaith, dwi jyst yn mynd amdani.
"Pan rydyn ni'n siarad rydyn ni i gyd yn defnyddio tafodiaith a slang a geiriau benthyg - dwi ddim yn poeni'n ormodol, jyst eisiau clywed yr iaith allan yna ydw i.
"Mae na ysgolion uniaith Gymraeg yn yr ardal a wastad galw - does na ddim digon o ysgolion yma.
"Mae'r ardaloedd yma'n gefnogol iawn i'r iaith ond mae yna genhedlaeth sydd wedi colli allan ar yr iaith ond yn gweld y gwerth ynddi - achos maen nhw rŵan yn danfon eu plant a'u wyrion i ysgolion Cymraeg.
"Falle bod rhai wedi bod drwy'r ysgolion Cymraeg ond does dim cyfle iddyn nhw ei defnyddio a dyna lle rydyn ni'n dod mewn yn y fenter iaith, rydyn ni'n trio creu'r cyfleoedd yma a creu'r rhwydweithiau i bobl ddefnyddio'u Cymraeg a'i chadw i fynd.
"Mae pethau fel hyn yn helpu achos mae pobl yn clywed y Gymraeg allan ar y stryd, clywed pethau yn Gymraeg yn gyntaf, wedyn mae cyfle iddyn nhw drio ei ddallt yn y Gymraeg ac os nad ydyn nhw cweit yn gael o, mae 'na Saesneg i ddilyn.
"Mae'n dod yn iaith swyddogol y cyngor wedyn."
Ers iddo gael y swydd, mae Cyngor Tref Treffynnon wedi bod yn gefnogol iawn i'w rôl ddwyieithog, meddai Chris.
"Mae Cyngor Tref Treffynnon wedi dechrau trosi popeth imi rŵan. Does dim rhaid imi gyfieithu ar y pryd - mae popeth dwi'n gael ganddyn nhw yn ddwyieithog, felly maen nhw wedi dod on board efo fo yn syth.
"Mae'n eu hannog nhw i ddweud 'mae gynnon ni rywun sy'n siarad Cymraeg'.
"Yr un peth dwi'n cael ychydig o broblem efo fo ar hyn o bryd ydy mod i'n trio ymuno efo cymuned o grïwyr tref, cymdeithasau fel The Guild of Town Criers, ond yn eu rheolau maen nhw'n dweud bod rhaid i bob cri tref orffen efo'r geiriau 'God Save the Queen'.
"Ond dydi pawb ddim yn teimlo'r un ffordd y dyddiau yma... felly mae'n rhaid inni ffeindio ffordd o fod yn hyblyg a sensitif i deimladau pobl.
"Falle byddai'n fwy addas i rywun fel fi orffen efo'r geiriau 'Cymru am byth', gan mai fi, hyd y gwn i, ydi'r unig grïwr tref sy'n gallu gwneud y gri yn Gymraeg ar hyn o bryd - dwi'n dal i wneud ymholiadau mewn i hynny ond faswn i wrth fy modd yn cael clywed os oes na rywun arall a sut basen ni'n cael rownd problemau bach fel yna."
Clywch, clywch! Ers cyhoeddi'r stori hon mae Chris wedi clywed gan grïwr tref arall sy'n defnyddio'r Gymraeg yn y Gelli Gandryll yng nghanolbarth Cymru.