Trafod gwahardd ysmygu ar gaeau chwarae a thir ysbytai
- Cyhoeddwyd
Mae ymestyn y gwaharddiad ar ysmygu i diroedd ysbytai, ysgolion a chaeau chwarae yng Nghymru gam yn agosach.
Mae'r Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething wedi lansio ymgynghoriad ar gryfhau'r ddeddf sy'n ymwneud ag ysmygu mewn mannau cyhoeddus.
Byddai addasu'r ddeddf yn golygu y bydd cleifion ac ymwelwyr yn gorfod gadael tir yr ysbyty er mwyn ysmygu yn y dyfodol.
Fe fydd hefyd yn cryfhau'r gwaharddiadau gwirfoddol sydd mewn lle ar hyn o bryd ar diroedd ysgolion a chaeau chwarae cyhoeddus.
Bydd yr ymatebion i'r ymgynghoriad yn cael eu defnyddio i lunio'r ddeddfwriaeth derfynol, gyda'r gobaith y bydd y gwaharddiad mewn lle erbyn haf 2019.
Newidiadau ychwanegol
Mae'r ymgynghoriad hefyd yn gofyn am y farn am gyflwyno newidiadau ychwanegol i'r gwaharddiad ysmygu presennol ddaeth i rym yn 2007.
Mae'r rhain yn cynnwys:
Gosod cyfyngiad amser ar yr hawl i ddynodi ystafell ar gyfer ysmygu mewn unedau iechyd meddwl. Byddai hyn yn caniatáu i reolwyr symud tuag at ddileu lleoliadau ysmygu dan do a dynodi ardaloedd tu allan yn eu lle;
Gosod cyfyngiad amser tebyg ar yr hawl i ddynodi ystafelloedd mewn gwestai, tafarndai a chlybiau fel rhai i ysmygwyr.
Bydd unrhyw newidiadau'n cael eu cyflwyno dan Ddeddf Iechyd Cyhoeddus (Cymru) 2017 gafodd ei basio gan ACau y llynedd.
Mae arbenigwyr iechyd cyhoeddus o'r farn fod ysmygu'n gyfrifol am fwy na 5,000 o farwolaethau yng Nghymru bob blwyddyn, a thua un o bob chwech o farwolaethau pobl dros 35 oed.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Mawrth 2018
- Cyhoeddwyd6 Tachwedd 2017