'Angen cyflogi pobl sy'n cysgu ar y strydoedd'

  • Cyhoeddwyd
Picture of homeless person on a street

Fe ddylai pobl ddi-gartref gael swyddi gan gynghorau a chyrff cysylltiedig â Llywodraeth Cymru er mwyn eu cynorthwyo i beidio gorfod byw ar y stryd, dyna neges elusen The Wallich.

Mae dinas Fort Worth yn yr Unol Daleithiau wedi cyflogi dau sy'n cysgu ar y stryd i lanhau strydoedd yn yr ardal.

Dywedodd elusen The Wallich, sy'n rhoi cefnogaeth i bobl ddi-gartref ar draws Cymru, ei bod yn syniad sy'n werth ei ystyried yma.

Ond mae Llywodraeth Cymru wedi dweud mai darparu llety diogel i bobl ddi-gartref yw eu blaenoriaeth nhw.

Yn ôl ffigyrau swyddogol roedd 350 o bobl yn cysgu ar y strydoedd yng Nghymru yn 2017 - cynnydd ers y flwyddyn flaenorol.

'Rhaid i gyrff cyhoeddus arwain y ffordd'

Mae Sian David o The Wallich yn credu ei bod yn bwysig cael pobl ddi-gartref oddi ar y stryd er mwyn sicrhau eu sefydlogrwydd hirdymor.

Dywedodd wrth Sunday Politics Wales ei bod yn ddyletswydd ar gyrff cyhoeddus i arwain y ffordd a chanfod ffyrdd o gyflogi pobl ddi-gartref.

"Mi fyddwn yn annog unrhyw fusnes," meddai, "i edrych ar ei gweithlu - boed yn awdurdod lleol, corff cysylltiedig â'r llywodraeth, y trydydd sector neu gwmni preifat - er mwyn canfod pa gyfleon y maent yn eu creu i roi gwaith i bobl ddi-gartref."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Dee Samuel o Gaerdydd yn gobeithio ysbrydoli pobl ddi-gartref eraill

'Mae cael gwaith yn help mawr'

Fe dreuliodd Dee Samuel o Gaerdydd bum mis yn byw ar strydoeddy brifddinas wedi iddi adael y cartref yr oedd hi'n rhannu gyda'i phartner.

Ers 2016 mae hi wedi gweithio fel glanhawraig i elusen The Wallich.

"Mae'n helpu i gael chi nôl ar eich traed, mae'n rhoi strwythur a sefydlogrwydd i chi ar ry'n ni gyd angen sefydlogrwydd yn ein bywyd," dywedodd.

Mae Ms Samuel bellach yn helpu i gefnogi eraill sy'n cysgu ar y stryd.

"Mae'n helpu fi i roi rhywbeth yn ôl a gobeithio yn annog eraill i feddwl y gallwn nhw hefyd wneud yr hyn dwi i wedi ei wneud," ychwanegodd.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Michael yn credu bod yna rwystrau sy'n atal pobl rhag cael gwaith

Ond ar strydoedd Caerdydd fe ddywedodd rhai pobl ddi-gartref wrth BBC Cymru eu bod yn ei chael hi'n anodd chwilio am waith a bod yna rwystrau sy'n eu hatal rhag cael eu cyflogi.

Yn wreiddiol o Ddulyn mae Michael wedi bod yn byw ar y strydoedd am oddeutu pedair blynedd.

Dywedodd: "Mi ges i gyfweliad gyda cwmni recriwtio beth amser yn ôl ond fe ddywedwyd wrthyf oherwydd bod gen i gysylltiad â'r gymuned ddi-gartref nad oedd rhai pobl yn hapus."

Dywedodd Llywodraeth Cymru mai eu blaenoriaeth oedd sicrhau llety diogel i bobl oedd ar fin wynebu digartrefedd.

"Mae hynny hefyd," meddai llefarydd, "yn cynnwys addysg, hyfforddiant a rhaglenni prentisiaeth."

Mae Sunday Politics Wales ar BBC One Cymru ar ddydd Sul, 27 Mai am 1100 BST .