'Dim difaru' mynd â fy nhad i farw yn Dignitas
- Cyhoeddwyd
Mae dynes wnaeth fynd â'i thad 93 oed i farw yn uned Dignitas yn y Swistir wedi dweud ei bod hi ddigon parod i fynd i'r carchar.
Fe wnaeth Sandra Holmes, 66 o Lanrwst, a'i mab Scott dynnu John Lenton o gartref gofal a theithio i'r Swistir ym mis Hydref 2017, gan wybod eu bod yn torri'r gyfraith.
Dywedodd Ms Holmes fod ei thad wedi gofyn iddi yng ngwanwyn y llynedd i fynd gydag o i farw dramor.
Mae hi a'i mab bellach yn disgwyl clywed os fydd Gwasanaeth Erlyn y Goron (CPS) yn penderfynu cymryd camau yn eu herbyn.
Heddlu'n archwilio
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cadarnhau eu bod wedi archwilio'r achos, sydd bellach wedi'i basio ymlaen at Gwasanaeth Erlyn y Goron (CPS).
Mae'r CPS hefyd wedi cadarnhau fod yr achos nawr yn cael ei adolygu gan yr uned troseddau arbenigol.
Roedd Mr Lenton yn fyddar ac yn dioddef o gyflwr Parkinson's a nifer o gyflyrau eraill, ac yn ôl Ms Holmes fe benderfynodd ei fod wedi cael digon pan gafodd nam oedd yn achosi iddo goll ei golwg.
Pan ofynnwyd i Ms Holmes os mae'n barod i fynd i'r carchar, dywedodd: "Ydw, os yw'n dod i hynny. Roedd y ddau ohonom yn gwybod efallai y buasai'n rhaid i ni wneud hynny. Dwi ddim yn credu am funud y bydd yn dod i hynny, ond baswn os oes raid," meddai.
Ychwanegodd Ms Holmes nad yw'n difaru'r hyn wnaeth hi a'i mab.
"Rydym yn disgwyl i'r CPS benderfynu os maen nhw am erlyn. Mae'r heddlu'n disgwyl i'r CPS benderfynu. Ni allai neb wneud unrhyw beth tan i hynny ddigwydd," meddai.
Dywedodd Scott Holmes hefyd y buasai'n fodlon mynd i'r carchar "os oes rhaid" gan ychwanegu "fe wnaethom ei ryddhau yn ôl ei ddymuniad, felly allwn ni ddim difaru hynny".
Galw am newid y gyfraith
Fe wnaeth y trip gymryd saith mis i'w drefnu yn ôl Ms Holmes, gan gostio £15,000.
Dywedodd nad oedd hi wedi gorfodi ei thad o gwbl, ac ar sawl achlysur fe wnaeth hi roi opsiynau iddo newid ei feddwl.
Roedd wedi archebu tocyn dwy ffordd er mwyn iddo allu dychwelyd o'r Swistir.
Mae hi nawr yn galw am newid i'r gyfraith ar gyfer pobl fel ei thad sy'n dewis marw.
"Dwi'n credu mai dewis yr unigolyn yw beth maen nhw am ei wneud," meddai.
"Dyna oedd dewis fy nhad, felly fe wnaethom ni beth oedd orau iddo. Efallai nad yw'n iawn i rywun arall, ond dyna oedd y peth cywir iddo fo, a doedd gen i ddim amheuaeth.
"Dwi ddim yn credu dylai unrhyw un gael ei erlyn am gynorthwyo rhywun yn drugarog sydd wedi penderfynu dros eu hunain.
"Os base gennym ni anifail anwes yn y wlad yma, fel ci oedd yn yr un cyflwr â fy nhad, fe fuaswn yn cael fy nghyhuddo o greulondeb trwy gadw'r ci'n fyw.
"Ond yn y wlad yma, rydym yn caniatáu i bobl cael eu cadw yn y fath gyflwr. Am y rheswm yna, mae'n rhaid i'r gyfraith newid."