Galw ar Lywodraeth Japan i gefnu ar gynllun Wylfa Newydd
- Cyhoeddwyd
Mae ymgyrchwyr gwrth niwclear wedi cyflwyno deiseb i Lywodraeth Japan yn galw arnynt i beidio â chefnogi gorsaf bŵer Wylfa Newydd ar Ynys Môn.
Mae bron i 6,000 o bobl wedi arwyddo'r ddeiseb gan Pobl Atal Wylfa B (PAWB), gafodd ei gyflwyno i Weinyddiaeth Masnach a Diwydiant Rhyngwladol Japan ddydd Llun.
Mae'r ymgyrchwyr yn Japan i gynnal trafodaethau gydag aelodau o weinyddiaethau Materion Tramor, Economi, Cyllid a Masnach a Diwydiant y wlad.
Bydd y grŵp hefyd yn ymweld â'r ardal gafodd ei effeithio gan drychineb niwclear Fukushima yn 2011.
Mae adroddiadau bod bwrdd Hitachi - perchnogion cwmni Horizon, sydd y tu ôl i gynllun Wylfa Newydd - yn cwrdd yn Tokyo i bleidleisio ar gynnig o gefnogaeth ariannol gan Lywodraeth y DU.
Daw hyn yn dilyn adroddiadau'n gynharach yn y mis bod Llywodraeth y DU am gynnig £13.3bn o gymorth ariannol i helpu Hitachi i adeiladu'r orsaf bŵer.
'Ansicrwydd'
Dywedodd un o ymgyrchwyr PAWB, Meilyr Tomos, bod yr adroddiadau hynny yn cefnogi eu hachos, gan ddangos bod pŵer niwclear yn hen ffasiwn a drud.
"Mae'n gynllun sydd angen dwy lywodraeth i'w chynnal, felly does 'na ddim sicrwydd am unrhyw beth ar hyn o bryd," meddai.
"Dyw o ddim yn fenter fasnachol. Rydych chi angen gwerth am arian, a dyw hynny ddim yn rhywbeth y gall niwclear ei ddarparu - mae'n rhy ddrud o lawer."
Bydd dyfodol yr orsaf bŵer yn ddibynnol ar amcangyfrifon ar gyfer cost y prosiect, fydd ddim yn cael eu cwblhau nes diwedd y flwyddyn.
Mae ansicrwydd hefyd ynglŷn â'r pris y bydd yr orsaf yn gwerthu trydan.
Mae disgwyl i Lywodraeth y DU gefnogi pris o tua £15 yn llai na'r £92.50 ar gyfer pob awr megawat gafodd ei gytuno yn achos gorsaf niwclear Hinkley Point C.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Mai 2018
- Cyhoeddwyd9 Ebrill 2018
- Cyhoeddwyd14 Rhagfyr 2017