Caerdydd ar y rhestr fer i ddenu canolfan Channel 4
- Cyhoeddwyd
Mae Channel 4 wedi cyhoeddi bod Caerdydd ar y rhestr fer i fod yn gartref i ran o fusnes y sianel pan fydd yn ymestyn o Lundain.
Saith dinas sydd ar y rhestr fer i gyd, ond Caerdydd yw'r unig ddinas yng Nghymru i gyrraedd y rhan yma o'r broses.
Roedd Wrecsam, Abertawe a Chaerfyrddin hefyd wedi gwneud ceisiadau i ddenu'r cwmni darlledu.
Dywedodd Arweinydd Cyngor Wrecsam, Mark Pritchard, eu bod nhw wedi "siomi yn ofnadwy" ar ôl methu â chyrraedd y rhestr fer.
Derbyniodd Channel 4 dros 30 o geisiadau o wahanol rannau o'r DU.
Y rhestr fer yn llawn:
Bryste
Caerdydd
Glasgow
Manceinion
Leeds
Lerpwl
Gorllewin Canolbarth Lloegr
'Cystadleuaeth fawr'
Mae Channel 4 wedi cyhoeddi cynlluniau i symud 300 o staff a chreu tair canolfan y tu allan i Lundain.
Fe fyddan nhw hefyd yn cynyddu eu gwariant ar raglenni sy'n cael eu gwneud y tu allan i'r ddinas.
Mewn ymateb i'r newyddion, dywedodd Arweinydd Cyngor Caerdydd a chadeirydd cynnig Caerdydd, Huw Thomas ei bod hi'n "bleser" ganddo i glywed y cyhoeddiad
Dywedodd Mr Thomas: "Mae cystadleuaeth fawr ond mae ein cynnig yn eithriadol o gryf yn sgil ei ddatblygu ar y cyd â'n diwydiant creadigol lleol."
Ychwanegodd: "Mae diwylliant, creadigrwydd ac arloesi yn ganolog i daith Caerdydd wrth iddi ddod yn un o ganolfannau creadigol gorau'r DU."
Mae pawb sydd wedi cyfrannu at y cais yn edrych ymlaen at gam nesaf y broses yn ôl y cynghorydd.
Nawr bydd rhaid i bob dinas ar y rhestr fer gymryd rhan yn y cam nesaf o'r broses, sy'n cynnwys cyflwyniadau a sesiynau cwestiwn ac ateb.
Bydd y penderfyniad terfynol ar y safleoedd newydd yn cael ei wneud ym mis Hydref.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Mawrth 2018
- Cyhoeddwyd19 Mawrth 2018
- Cyhoeddwyd14 Mawrth 2018