Canolfan Channel 4: Caerfyrddin a Wrecsam i ymgeisio?
- Cyhoeddwyd
Mae BBC Cymru ar ddeall bod Caerfyrddin a Wrecsam yn ystyried ceisiadau i ddenu Channel 4 pan fydd rhai staff y sianel yn symud o Lundain flwyddyn nesaf.
Mae Caerdydd eisoes wedi datgan ei bwriad i wneud cais am un o'r tair canolfan newydd sy'n cael eu sefydlu gan y darlledwr, gan gynnwys pencadlys cenedlaethol newydd.
Flwyddyn nesaf bydd Channel 4 yn symud 300 o staff o Lundain, ac mae'r prif weithredwr wedi ymrwymo i gynyddu faint sy'n cael ei wario ar raglenni sy'n cael eu cynhyrchu y tu allan i brifddinas y DU.
Yn y blynyddoedd diwethaf mae Caerfyrddin a Wrecsam wedi trio cryfhau eu cymwysterau fel canolfannau ar gyfer sgiliau cynhyrchu teledu.
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn creu Yr Egin yng Nghaerfyrddin, fydd yn gartref i bencadlys newydd S4C, tra bod Prifysgol Glyndŵr Wrecsam wedi buddsoddi mewn canolfan diwydiannau creadigol.
Mae disgwyl i gais Caerdydd ganolbwyntio ar ardal y Sgwâr Canolog, lle mae pencadlys newydd y BBC yn cael ei adeiladu, a lle bydd ysgol newyddiaduraeth, cyfryngau a diwylliant Prifysgol Caerdydd yn symud yn yr hydref.
Gall lleoliadau sydd â diddordeb denu Channel 4 wneud cais ffurfiol i'r darlledwr o fis Ebrill, gyda phenderfyniad ar leoliad terfynol y tri safle yn yr hydref.
'Lleoliad amlwg'
Mae Llywodraeth Cymru wedi addo cefnogi cynlluniau i ddenu Channel 4 i Gymru, ac mae wedi cefnogi cyhoeddiad ffurfiol Cyngor Caerdydd.
Mewn ymateb i gwestiwn a fyddai Llywodraeth Cymru'n cynnig benthyciadau neu adeiladau i Channel 4 fel sydd wedi digwydd wrth ddenu cwmnïau creadigol eraill yma, fe ddywedodd y gweinidog diwylliant, yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas: "Beth sydd yn bwysig am Channel 4 ydy eu bod nhw yn ddarlledwr cyhoeddus yn ei ethos ac yn eu cynnwys, ond eu bod nhw hefyd yn gorff masnachol effeithiol iawn ym maes y cyfryngau.
"Ac felly dwi'n meddwl y byddwn nhw'n deall yn union beth fydd yn bosib i ni fel llywodraeth i'w wneud a 'da ni'n awyddus iawn i wneud hynny os gawn ni y cyfle."
Ychwanegodd yr Arglwydd Elis-Thomas y gallai Cymru fod yn gartref addas iawn i Channel 4.
"Yn amlwg, y peth pwysig i ni yw sefydlu egwyddor y lleoliad, ac atyniad Caerdydd. A hynny yn seiliedig ar y sgiliau sydd gennym yma yn nhermau cynhyrchu ac ôl-gynhyrchu," meddai.
Er y byddai sicrhau un o'r tair canolfan gynhyrchu yn wobr i Gymru, mae cynhyrchwyr annibynnol eisoes yn dathlu ymrwymiad gan Channel 4 i gynyddu'r gwariant ar raglenni sy'n cael eu cynhyrchu y tu allan i Lundain.
'Cyfle euraidd'
Bydd y darlledwr yn cynyddu ei gwota i wario 35% o'i gyllideb ar y cynnwys a gynhyrchir yng ngwledydd a rhanbarthau'r DU i darged gwirfoddol newydd o 50% erbyn 2023.
Dywed Channel 4 fod hyn yn gyfystyr â chynnydd o dros £250m yn y swm sy'n cael ei wario y tu allan i Lundain.
Mae un o gwmnïau cynhyrchu teledu mwyaf Cymru, Rondo, eisoes yn creu rhaglenni ar gyfer Channel 4, gan gynnwys y sioe ddyddiol Find It, Fix It, Flog It a rhaglenni dogfen trwy ei is-gwmni Yeti.
Dywedodd Gareth Williams, prif weithredwr Rondo a chadeirydd Teledwyr Annibynnol Cymru, fod cynlluniau Channel 4 yn "gyfle euraidd" i'r diwydiant.
"Rwy'n credu ein bod wedi symud i ffwrdd o'r sefyllfa ychydig flynyddoedd yn ôl pan efallai bod rhai rhaglenni dogfen sengl, ac ambell i gyfres fer, yn cael eu comisiynu o Gymru ar gyfer Channel 4," meddai.
"Mae gennym hyder y byddwn yn gallu dod o hyd i fwy o waith yn y maes yma, ac mae Channel 4 bellach yn edrych ar ystod ehangach o bartneriaid cynhyrchu ar draws y DU i'w helpu i gyflawni'r nod [o gynyddu ei gwota].
"Rwy'n credu ei fod yn gyfle euraidd i gynhyrchwyr yma yng Nghymru."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Gorffennaf 2017