Gwrthdrawiad A4232: Cyhoeddi enw dynes fu farw

  • Cyhoeddwyd
Barbara RoweFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Barbara Rowe yn y gwrthdrawiad ar yr A4232 ger Croes Cwrlwys

Mae'r heddlu wedi cyhoeddi enw dynes fu farw yn dilyn gwrthdrawiad rhwng pedwar cerbyd yng Nghaerdydd ddydd Mawrth.

Bu farw Barbara Rowe, 60 o Ben-y-bont ar Ogwr, wedi'r gwrthdrawiad rhwng dau gar a dwy lori ar yr A4232 ger Croes Cwrlwys.

Cafodd dyn 27 oed oedd yn gyrru lori ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus, ac mae bellach wedi'i ryddhau dan ymchwiliad.

Dywedodd ei theulu mewn datganiad: "Roedd Barbara yn wraig, mam a mam-gu cariadus a charedig, ac roedd hi'n caru bywyd teuluol yn fwy na dim.

"Roedd hi'n weithiwr caled, yn caru ei swydd a'i chyd-weithwyr, ac yn uchel ei pharch. Bydd hi'n cael ei cholli gan bawb oedd yn ei charu."

Mae'r Heddlu De Cymru yn parhau i apelio ar unrhyw dystion i gysylltu â'r llu trwy ffonio 101.