'Achos Ethan ydy'r gwaethaf mewn 30 mlynedd fel erlynydd'

Ethan Ives-GriffithsFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Ethan Ives-Griffiths yn ddwy oed pan fu farw

  • Cyhoeddwyd

Mae'r heddlu ac erlynwyr oedd yn rhan o ymchwiliad i farwolaeth bachgen dwy oed yng ngogledd Cymru wedi dweud bod yr achos yn un o'r rhai "mwyaf erchyll" maen nhw wedi'i weld erioed.

Cafodd Ethan Ives-Griffiths ei lofruddio gan ei daid a'i nain, Michael a Kerry Ives yn eu cartref yn Garden City, Sir y Fflint.

Roedd y bachgen ar gofrestr amddiffyn plant y cyngor sir ar y pryd.

Cafwyd ei fam, Shannon Ives, 28, yn euog o achosi neu o ganiatáu ei farwolaeth, ac o greulondeb i blentyn.

Yn Llys y Goron yr Wyddgrug ddydd Gwener cafodd Michel Ives ei ddedfrydu i isafswm o 23 o flynyddoedd dan glo, a Kerry Ives i o leiaf 17 o flynyddoedd.

Cafodd Shannon Ives ddedfryd 12 mlynedd gan y barnwr, gydag o leiaf wyth mlynedd dan glo.

Y Ditectif Gwnstabl Lee Harshey-Jones oedd prif ymchwilydd Heddlu Gogledd Cymru i farwolaeth Ethan.

Fel rhan o'r ymchwiliad, o'r enw Ymgyrch Zaatar, bu'n rhaid iddo a'i dîm wylio tua 1,000 awr o luniau camerâu cylch cyfyng oedd tu allan i gartref yr Ives ar Ffordd Kingsley yn Garden City.

"Dwi'n cofio eistedd yno, yn gwylio'r lluniau am y tro cyntaf, a chael fy syfrdanu a fy nychryn gan beth welais i," meddai.

Mae'n cofio gwylio fideo o'r ardd gefn ar 4 Awst, 10 diwrnod cyn i Ethan farw o'r hyn a alwodd yr erlyniad yn "ymosodiad difrifol".

Roedd yn foment arwyddocaol - y tro cyntaf i'r heddlu weld Michael Ives yn cam-drin Ethan, gan ei gario wrth un fraich o'r trampolîn.

Llun o dadcu Ethan Michael Ives yn cario Ethan wrth ei fraich yng nghanol yr ardd gefn. Mae mam a mamgu Ethan yn gwylioFfynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Michael Ives ei weld ar gamera cylch cyfyng yn cario Ethan ger ei fraich ar 4 Awst, 10 diwrnod cyn iddo farw

"Rhoddodd ddealltwriaeth wirioneddol i ni, yn enwedig o Michael Ives - sut oedd o'n fodlon ac yn hapus i gam-drin Ethan.

"Dwi'n cofio dweud wrth fy nitectif arolygydd, fy sarjant, pobl eraill o'm cwmpas, edrychwch ar be' dwi newydd ddod o hyd iddo. Roedd yn foment enfawr i'r ymchwiliad."

Ond roedd lluniau gwaeth na hynny i ddod.

Ymhlith y dystiolaeth roedd fideo o Ethan yn cael ei orfodi i gadw ei ddwylo ar ei ben mewn modd oedd yn achosi straen iddo, neu stress position.

Roedd yna fideo arall oedd, yn ôl pob golwg, yn dangos Michael Ives yn annog plentyn arall i daro Ethan ar ei ben.

Llun o Ethan yn cerdded tuag at y tŷ gyda'i freichiau ar ei ben. Mae ei dadcu a'i mamgu yn cerdded tu ôl iddoFfynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Gwelwyd Ethan yn cael ei orfodi i gadw ei ddwylo ar ei ben

Maen nhw'n ddelweddau sy'n anodd eu hanghofio, yn ôl y Ditectif Gwnstabl Harshey-Jones.

"Dwi'n meddwl sut y gallai wedi bod yn wahanol pe bai'r rhai a ddylai fod yn gyfrifol amdano wedi gofalu am Ethan," meddai.

"Bydd pob un ohonom a oedd yn rhan o'r ymchwiliad yma… pob un ohonom bob amser yn ei chael hi'n anodd meddwl amdano.

"'Da ni i gyd wedi gorfod dioddef wrth ymchwilio i hyn."

Ditectif Gwnstabl Lee Harshey-Jones yn edrych at y camera yn gwisgo siwt du gyda thei brown
Disgrifiad o’r llun,

Y Ditectif Gwnstabl Lee Harshey-Jones oedd prif ymchwilydd Heddlu Gogledd Cymru i farwolaeth Ethan

Ym mis Gorffennaf cafwyd Michael a Kerry Ives yn euog o lofruddio Ethan, yn ogystal â chyhuddiadau eraill.

Cafodd mam Ethan, Shannon Ives, ei chanfod yn euog o achosi neu ganiatáu ei farwolaeth, a chreulondeb i blant.

Wrth ofyn i'r ditectif gwnstabl am ei deimladau pan ddaeth y dyfarniad, dywedodd: "Mae'n anodd cofio'r foment oherwydd ei bod mor emosiynol.

"Ond yn sicr roedd yn un o ryddhad a balchder i ni i gyd pan glywon ni'r dyfarniad oherwydd roedd hynny'n gywir a dyna oedd cyfiawnder a dyna oedd angen."

Gan sychu dagrau o'i lygaid, ychwanegodd: "Ni fydd byth yn dod ag o yn ôl, ond gobeithio y bydd yn rhoi rhywfaint o gysur i ni i gyd, a gallwn ni fod yn falch o hynny."

'Ymhlith y gwaethaf mewn 30 mlynedd'

Mae'r Ditectif Uwch-arolygydd Chris Bell, yr uwch swyddog ymchwilio, yn disgrifio'r achos fel yr un "mwyaf heriol ac emosiynol i mi erioed fod arno".

Wrth i fwy o luniau a thystiolaeth o anafiadau Ethan ddod i'r amlwg, roedd yn gwybod y byddai angen cefnogaeth ar ei dîm.

"Nid peiriannau ydyn ni. Pobl ydyn ni, rhieni ydyn ni, 'da ni'n byw yn y gymuned," meddai.

"Roedd yr achos hwn yn wahanol."

Rhoddodd strategaeth lles ar waith i staff oedd yn rhan o'r achos.

"Ond hyd yn oed gyda hynny, 'da chi'n dod yn ymwybodol o sut mae'n effeithio ar bobl, drwy gydol cyfnod yr ymchwiliad," meddai.

"Pan mae'n ymwneud â phlentyn, dwi'n credu ei fod yn wahanol. Mae gan bobl yn ein swyddfa blant o oedrannau tebyg.

"Mae'n amhosib cau'r drws ar achos fel hyn. Mae'n effeithio chi tu hwnt i'r swyddfa.

"Felly, wrth i'r achos llys fynd yn ei flaen dwi wedi bod yn cadw llygad ar fy nhîm. Dwi'n ymwybodol iawn ei fod wedi effeithio arnyn nhw.

"Mae wedi bod yn hanfodol bwysig ein bod ni'n siarad amdano ac mae'n hanfodol bwysig ein bod ni'n estyn allan am y gefnogaeth sydd ar gael i swyddogion heddlu."

Llun o Ethan Ives-Griffiths yn gwenu at y camera tra'n gwisgo crys-t glas ac yn sefyll ar ei wely. Ffynhonnell y llun, LLUN TEULU

Heddlu Gogledd Cymru oedd wedi ymchwilio i'r achos, ond daeth y penderfyniad i erlyn gan Wasanaeth Erlyn y Goron (CPS).

Roedd yn golygu bod yn rhaid i Nicola Rees - erlynydd arbenigol yn uned achosion cymhleth CPS Cymru - wylio'r lluniau CCTV hefyd.

"Fe wnes i'n llythrennol mynd â'r lluniau adref gyda fi gan fy mod i'n adolygu'r achos yn ystod cyfnod clo Covid - roedd pawb yn gweithio o adref," meddai.

"Felly chi'n eistedd yn eich cartref eich hun yn gwylio'r lluniau hyn yn chwarae o'ch blaen am y tro cyntaf.

"Ydy, mae'r achos hwn wedi effeithio arna i - mae wedi effeithio ar bawb, dwi'n meddwl, sydd wedi bod yn rhan ohono.

"Mae'n aros gyda chi oherwydd ei fod mor anodd gwylio'r fideos.

"Chi'n gwybod bod anafiadau a gafodd eu hachosi gan gamdriniaeth wedi lladd y plentyn o fewn dyddiau o'u derbyn nhw."

Yn erlynydd ers dros 30 mlynedd, ychwanegodd: "Tra bod Michael yn gwneud hyn, mae'r diffynyddion eraill, ei wraig a mam y plentyn dwy oed yma, yn gwneud dim - ddim yn camu i mewn, ddim yn atal hyn rhag digwydd.

"Mae'n syfrdanol, hyd yn oed ar ôl yr holl flynyddoedd dwi wedi bod yn y swydd."

Lluniau'r heddlu o Kerry, Shannon a Michael Ives. Mae'r tri yn edrych at y camera. Mae gan Kerrie a Shannon gwallt coch ac mae gan Michael gwallt llwyd a barf.Ffynhonnell y llun, HEDDLU GOGLEDD CYMRU
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r ffaith na wnaeth Kerry na Shannon Ives ymyrryd yng nghamdriniaeth Michael Ives o Ethan yn "syfrdanol", meddai Nicola Rees

Wrth iddi wylio mwy o'r lluniau, daeth rhywbeth arall yn glir iddi.

"Yr hyn oedd wedi fy nharo wrth wylio oedd mai lluniau cylch cyfyng o du allan y tŷ yw'r rhain. Gallai cymdogion fod wedi gweld hyn yn hawdd.

"Felly beth arall oedd yn digwydd y tu mewn i'r tŷ? Dwi'n meddwl mai dyna oedd yn chwarae ar fy meddwl."

Pan ddaeth yr achos i'r llys ym mis Mehefin 2025, daeth yn amlwg bod yr achos wedi effeithio ar fwy na'r heddlu ac erlynwyr yn unig.

Dywedodd Ms Rees fod "aelodau o'r proffesiwn meddygol yn crio yn y llys yn rhoi eu tystiolaeth oherwydd dydyn nhw erioed wedi gweld unrhyw beth tebyg".

"Mae difrifoldeb yr anafiadau a lefel y creulondeb yn debygol o fod ymhlith y gwaethaf i mi erioed eu gweld – hynny, a'r ffaith bod rhywfaint ohono wedi'i recordio ar deledu cylch cyfyng.

"Dydyn ni ddim yn gweld y math yna o dystiolaeth fel arfer... cafodd hynny effaith fawr arna i, oherwydd mae'n anarferol gweld cam-drin yn cael ei gyflawni o'ch blaen."

Gwyliwch Murdered by his Grandparents ar iPlayer.