Gruffydd Wyn o Ynys Môn yn ffeinal Britain's Got Talent

  • Cyhoeddwyd
Gruffydd WynFfynhonnell y llun, ITV

Mae'r canwr o Ynys Môn, Gruffydd Wyn Roberts, wedi sicrhau ei le yn rownd derfynol Britain's Got Talent.

Fe enillodd ei le yn y ffeinal drwy bleidlais y gwylwyr yn y rownd gyn-derfynol nos Fercher. Roedd y gynulleidfa a'r beirinaid ar eu traed ar gyfer perfformiad Gruffydd, 22 oed o Amlwch, oedd yn fyw ar ITV1.

Fe ganodd Nelle Tue Mani, gafodd ei chanu gan Andrea Bocelli yn y ffilm Gladiator.

Cafodd ganmoliaeth uchel gan y pedwar beirniad - Amanda Holden, Simon Cowell, David Walliams ac Alesha Dixon - ac fe ddisgrifiwyd ei berfformiad fel un "pwerus, cryf", "rhyfeddol" ac "epig".

Yn cystadlu hefyd oedd y canwr Aleksandar Mileusnić, y grŵp dawns Rise Unbroken, y perfformiwr Mr Uekusa, De Montfort University Gospel Choir, y consuriwr Marc Spelmann, y grŵp dawns hud Acrocadabra a'r digrifwr cerddorol Robert White (fydd hefyd yn y ffeinal),

Cafodd Gruffydd le yn y rownd gyn-derfynol yn wreiddiol drwy swyno'r beirinaid gyda'i berfformiad arbennig o Nessun Dorma yn y rownd gyntaf.

Ond mae ei lwyddiant nos Fercher yn yr Apollo, Hammersmith yn golygu bydd y canwr o Fôn yn ymddangos yn rownd derfynol Britain's Got Talent nos Sul, gyda'r enillydd yn perfformio yn y Royal Variety Performance.

Ffynhonnell y llun, ITV
Disgrifiad o’r llun,

Roedd gan Gruff gefnogaeth teulu a ffrindiau yn yr Apollo, Hammersmith

Yn siarad ar raglen Post Cyntaf, Radio Cymru fore Iau fe ddywedodd ei frawd Osian Roberts, oedd yn gwylio Gruffydd yn Llundain, ei fod yn "falch ofnadwy" o'i frawd bach.

"Roedd dipyn o nerfau, yn enwedig pan ddaeth y canlyniadau", meddai Osian. "Mae'r gefnogaeth mae Gruff wedi ei gael gan bobl Amlwch, pobl Ynys Môn a phobl Cymru wedi bod yn ffantastig".

Wrth baratoi ar gyfer y rownd gyn-derfynol, mae Gruff wedi bod yn mynd a dod cryn dipyn i Lundain ac "yn ymarfer yn y capel yn Amlwch".

Wrth iddyn nhw adael yr Apollo nos Fercher roedd y camerâu yn fflachio a phobl eisiau llofnod a llun Gruff - "mae'i fyd o wedi newid ar ei ben" dywedodd Osian, "a rydan ni'n ddiolchgar iawn i bawb."

Nos Iau, mi fydd y digrifwr Noel James o Gwm Tawe yn cystadlu'n fyw i drio sicrhau lle yn y rownd derfynol hefyd.

Gallwch wylio perfformiad Gruffydd nos Fercher ar BGT ar wefan YouTube, dolen allanol.

Ffynhonnell y llun, ITV