Chwilio am ddyn wnaeth geisio lladd cariad Jeremy Thorpe

  • Cyhoeddwyd
Norman Scott
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Norman Scott, sydd bellach yn 78 oed ei fod yn credu fod yr heddlu'n parhau i "guddio'r gwir"

Mae Heddlu Gwent wedi cadarnhau eu bod yn chwilio am ddyn allai fod yn gyfrifol am geisio lladd cariad cyn arweinydd y blaid Ryddfrydol - Jeremy Thorpe.

Fe wnaeth Heddlu Gwent gau ymchwiliad i'r achos o geisio lladd Norman Scott y llynedd.

Yn y 1960au dywedodd Mr Scott fod yntau a Jeremy Thorpe yn gariadon, mewn cyfnod ble roedd perthynas rhywiol rhwng dau ddyn yn anghyfreithlon.

Yn 1975 fe wnaeth Andrew Newton saethu ci Mr Scott yn farw, cyn ceisio lladd Mr Scott. Cyn iddo geisio ei saethu fe wnaeth y gwn fynd yn sownd a pheidio gweithio.

Dal yn fyw?

Roedd yr heddlu dan yr argraff fod Newton, wnaeth honni ei fod wedi cael ei dalu i ladd Mr Scott, wedi marw.

Bellach mae'r llu wedi cadarnhau eu bod yn credu y gallai Newton fod dal yn fyw.

Dywedodd Mr Scott sydd bellach yn 78 oed, ei fod yn credu fod yr heddlu yn "parhau i gelu gwybodaeth."

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Norman Scott (dde) yn honi fod yntau a Jeremy Thorpe yn gariadon

Mae Mr Scott yn honni fod Jeremy Thorpe, a fu farw yn 2014, wedi bod yn rhan o gynllwyn i'w ladd.

Roedd Mr Thorpe wastad yn gwadu'r honiadau yn ei erbyn, a fe gafwyd yn ddieuog gyda thri pherson arall yn 1978 o'r cyhuddiad o gynllwynio i lofruddio.

'Rhaid dechrau eto'

Mae'r ffeithiau newydd wedi dod i'r amlwg mewn rhaglen ddogfen BBC Four, The Jeremy Thorpe Scandal.

Mae'r newyddiadurwr Tom Mangold wedi bod yn ymchwilio i'r digwyddiad ers y 1970au a dywedodd fod yr ymchwiliad wedi dod i ben gan fod yr heddlu'n credu fod Newtown wedi marw.

Dywedodd Mr Mangold fod "rhaid dechrau eto" a byddai ddim yn dychryn petai "Newton yn fyw" gan ychwanegu "pan oeddwn i yn adnabod Newton, roedd yn ddyn ifanc heini."

Disgrifiad o’r llun,

Cafwyd Jeremy Thorpe yn ddi-euog o'r cyhuddiad o fod yn rhan o gynllwyn i geisio lladd Mr Scott yn 1979

Ychwanegodd Mr Scott "Dwi ddim yn credu fod unrhyw un wedi ceisio ddigon caled i chwilio amdano.

"Roeddwn yn credu fod Heddlu Gwent yn gwneud rhywbeth o'r diwedd, cyn i mi ddarganfod nad oedden nhw'n gwneud dim o gwbl.

"Roedden nhw'n parhau i gelu gwybodaeth cyn belled a gallai weld," meddai.

Mae Heddlu Gwent wedi dweud eu bod yn edrych yn ôl dros ambell fanylyn o'r ymchwiliad a bod ymchwilwyr wedi "dod o hyd i wybodaeth" allai ddynodi fod Newton dal yn fyw.

"O ganlyniad, bydd ymholiadau pellach yn digwydd i geisio dod o hyd i Newton ac i asesu os gallai gynorthwyo'r ymchwiliad," meddai.