Lluniau: Dydd Gwener Eisteddfod yr Urdd 2018 // In pictures: Friday at the Urdd Eisteddfod

  • Cyhoeddwyd

Mae hi'n ddiwrnod y Coroni yn Eisteddfod yr Urdd Maesyfed a Brycheiniog 2018. Daeth y glaw ond wnaeth hynny ddim stopio'r torfeydd rhag heidio i'r maes yn Llanelwedd.

Friday is the day of the Crowning ceremony at the Urdd National Eisteddfod 2018. The rain came in the early morning, but that didn't stop the crowds flocking to Llanelwedd.

Disgrifiad o’r llun,

Sioned Erin Hughes o Ben Llŷn yw enillydd Coron Eisteddfod yr Urdd 2018, ond oherwydd salwch roedd hi'n absennol o'r seremoni ddydd Gwener. Cafodd ei stori fer 'Du a Gwyn' ganmoliaeth arbennig gyda'r beirniaid Catrin Beard a Lleucu Roberts. // Sioned Erin Hughes from Pen Llŷn is the winner of the Urdd National Eisteddfod 2018 Crown. Unfortunately, due to illness she was not able to attend the ceremony.

Disgrifiad o’r llun,

Derbyniwyd y goron ar ran Erin yn y seremoni, gan yr Athro Gerwyn Williams o Brifysgol Bangor, wnaeth ei hysbrydoli i gystadlu eleni // The crown was presented to Professor Gerwyn Williams from Bangor University, who was Erin's inspiration to take part in the competition

Disgrifiad o’r llun,

Daeth cawod drom o law ben bore, wrth i'r cystadleuwyr a'u teuluoedd gyrraedd y maes // Friday morning on the Maes was a rainy affair

Disgrifiad o’r llun,

Mae angen help Mam a Dad ar Catrin o Aelwyd yr Ynys, Ynys Môn, gyda'r delyn ar ôl dod o'r llwyfan yn rhagbrawf Unawd Telyn Bl. 10 a dan 19 // But the weather failed to dampen the spirits of harpist Catrin and her parents from Anglesey

Disgrifiad o’r llun,

Yr actor Richard Lynch, sy'n chwarae rhan Garry Monk ar Pobol y Cwm, ydy Llywydd y Dydd yn yr Eisteddfod ddydd Gwener // Actor Richard Lynch was the President of the day

Disgrifiad o’r llun,

Dewi a'i fam Fflur yn mwynhau'r haul, wedi teithio am y dydd o Gaerffili i'r Eisteddfod // Dewi and his mother Fflur from Caerphilly enjoying some much-welcomed sunshine

Disgrifiad o’r llun,

Heblaw eich bod chi'n cystadlu ar y llwyfan, chewch chi ddim mynd heibio Ffion Haf a Jordan. Maen nhw'n gweithio gefn llwyfan trwy'r wythnos, a dyma'r ddau wyneb olaf y mae'r cystadleuwyr yn eu cyfarfod cyn mynd trwy'r twnel at y llwyfan // The last two faces competitors see before stepping on stage, back stage workers Ffion and Jordan

Disgrifiad o’r llun,

Gobeithio fod y map wedi helpu'r cystadleuydd yma i ffeindio ei rhagbrawf - mae'r cello yna'n edrych yn drwm! // "Hurry up with that map, this cello's heavy!"

Disgrifiad o’r llun,

Efa, Bleddyn ac Esyllt yn mwynhau'r ffair // A fun ride

Disgrifiad o’r llun,

Efallai nad oes yna wartheg yng nghylch y gwartheg yr wythnos hon, fel sydd yna wythnos y Sioe Frenhinol, ond mae'n lle braf a thawel i fwynhau cinio // A quiet spot for lunch in the midst of all the madness!

Disgrifiad o’r llun,

Magi Nogi yw un o'r beirniaid yn y gystadleuaeth trin gwallt yn yr Eisteddfod heddiw // The colourful Magi Nogi was a judge at this year's hairdressing competition