Gwobrau pensaernïol i adeilad Yr Ysgwrn
- Cyhoeddwyd
Mewn seremoni yng Nghaerdydd nos Iau, 31 Mai, enillodd Yr Ysgwrn, cartref Hedd Wyn, wobr Adeilad y Flwyddyn RSAW (Royal Society of Architects in Wales).
Yn ôl cadeirydd y rheithgor, Jonathan Adams, roedd yr adeilad, gafodd ei ail-agor i'r cyhoedd ym Mehefin 2017 wedi gwaith atgyweirio helaeth, wedi "swyno'r rheithgor".
Roedd yn canmol yr ymyrraeth "gofalus a chymhleth" a gafodd ei wneud gan y cwmni pensaernïol Purcell i'r adeiladau fferm hanesyddol a'r tirwedd o'u cwmpas.
Ynghyd â hyn, enillodd y prosiect wobrau Cadwraeth a Phensaernïaeth Gymreig y flwyddyn. Enillydd Pensaer Prosiect y Flwyddyn oedd Elgan Jones, Purcell, am ei waith ar y prosiect yma.
Dywedodd Emyr Williams, Prif Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri:
"Rydym yn ddiolchgar ac wrth ein boddau ein bod wedi ennill y gwobrau hyn gan y RSAW. Prynwyd Yr Ysgwrn i'r genedl gan yr Awdurdod yn 2012, gyda chefnogaeth Cronfa Goffa'r Dreftadaeth Genedlaethol a Llywodraeth Cymru, oherwydd ei arwyddocâd treftadaeth ddiwylliannol.
"Mae'r Ysgwrn yn adnabyddus fel un o gartrefi mwyaf rhyfeddol Cymru a bu'n gyrchfan pererinion ers dros ganrif. Rhoddwyd yno groeso gwresog i ymwelwyr gan deulu Hedd Wyn, gan gadw addewid a wnaethpwyd i fam y bardd, "i gadw'r drws yn agored".
"Ers 2013, gyda chefnogaeth Cronfa Dreftadaeth y Loteri a Llywodraeth Cymru, bu'n bleser gweithio gyda Purcell ar gadwraeth ac adnewyddiad gofalus Yr Ysgwrn ac aeth canlyniad y gwaith y tu hwnt i bob disgwyl.
"Cawsom ein syfrdanu gan yr adborth cadarnhaol a dderbyniwyd gan ymwelwyr dros y flwyddyn ddiwethaf ac mae niferoedd ymwelwyr i'r Ysgwrn wedi cynyddu dros bedair gwaith yn ystod y cyfnod hwnnw. Mae derbyn y clod hwn gan yr RASW yn arwydd o safon gwych y gwaith a gyflawnwyd ac rydym yn eithriadol o falch o hynny."
Enillodd Ganolfan y Celfyddydau ac Arloesi Prifysgol Bangor, ac uned cleifion newydd yn Hosbis Dewi Sant, Casnewydd, wobrwyon yn y seremoni hefyd.