Cyhoeddi rhestr fer Ysgoloriaeth Bryn Terfel
- Cyhoeddwyd
Mae panel o feirniaid wedi dewis y chwe chystadleuydd fydd yn ymgeisio am Ysgoloriaeth Urdd Gobaith Cymru Bryn Terfel eleni.
Roedd y grŵp yn dewis y cystadleuwyr yr oedden nhw'n ei gredu oedd fwyaf addawol o fewn y categori oedran hŷn o dan 25 oed.
Y chwech fydd yn cystadlu eleni fydd:
Glain Rhys - Aelwyd Penllyn, Rhanbarth Meirionnydd
Celyn Cartwright - Canolfan Berfformio Cymru, Rhanbarth Caerdydd a'r Fro
Epsie Thompson - Aelod o du allan i Gymru
Emyr Lloyd Jones - Aelod unigol Cylch Arfon, Rhanbarth Eryri
Elwyn Siôn Williams - Ysgol Gyfun Glantaf, Rhanbarth Caerdydd a'r Fro
Jodi Bird - Aelod o du allan i Gymru
Owain Sion, Iwan Llywelyn, Lowri Walton, Rhian Roberts a Sioned Gwen oedd ar y panel dewis.
Bydd yr ysgoloriaeth eleni ar nos Wener 12 Hydref ym Mhafiliwn Llandrindod, gyda'r tocynau yn mynd ar werth ddiwedd Mehefin.
Bydd yr enillydd hefyd yn cael gwobr ariannol o £4,000 i'w defnyddio er mwyn datblygu eu talent i'r dyfodol.
Dywedodd y panel: "Bu'n ddiwrnod llawn trafod, ond mae pawb yn gytûn ac yn hapus gyda'r criw o bobl ifanc sydd gennym ar gyfer creu cystadleuaeth wefreiddiol yn hwyrach yn y flwyddyn.
"Roedd cystadleuwyr talentog tu hwnt gennym ar y llwyfan eleni ac rydym nawr yn edrych ymlaen at weld mwy gan y chwech yma ac iddynt gael rhoi eu stamp eu hunain ar y perfformiadau fis Hydref."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Mehefin 2018
- Cyhoeddwyd31 Mai 2018
- Cyhoeddwyd22 Mawrth 2018