Dau brifardd yn ennill gwobrau Tir na n-Og 2018
- Cyhoeddwyd

Mae enillwyr gwobrau Tir na n-Og 2018 wedi cael eu cyhoeddi ddydd Iau ar lwyfan Eisteddfod yr Urdd yn Llanelwedd.
Mererid Hopwood sydd wedi dod yn fuddugol yn y categori Cynradd gyda stori 'Dosbarth Miss Prydderch a'r Carped Hud' gan Wasg Gomer.
Fe aeth y wobr yn y categori Uwchradd i Myrddin ap Dafydd am 'Mae'r Lleuad yn Goch', gan wasg Carreg Gwalch.
Mae'r gwobrau yn cael eu cyflwyno'n flynyddol gan Gyngor Llyfrau Cymru i awduron y llyfrau gorau i blant a phobl ifanc sydd wedi eu cyhoeddi yn ystod y flwyddyn flaenorol.