Chelsea Clinton a Neges Ewyllys Da yr Urdd
- Cyhoeddwyd
Ddydd Sul 3 Mehefin, cafodd Neges Heddwch ac Ewyllys Da yr Urdd ei chyhoeddi mewn digwyddiad arbennig yng Ngŵyl y Gelli.
Prif destun y neges eleni yw i wrando ar bobl ifanc. Roedd aelodau o Fwrdd Syr IfanC yn bresennol, ac fe gafodd y neges aml-ieithog ei rhannu ar gyfryngau cymdeithasol gan bobl ifanc o bob cwr o Ewrop, i weddill y byd.
Roedd yn rhan o ddigwydd She Persisted Around the World, ble'r oedd Chelsea Clinton, merch cyn Arlywydd Unol Daleithiau America, Bill Clinton, yn cael ei holi gan Alex Jones am ei llyfr newydd sy'n trafod merched a sbardunodd newid drwy godi eu lleisiau.
Meddai Sian Lewis, Prif Weithredwr Urdd Gobaith Cymru: "Dyma'r tro cyntaf i ni gydweithio gyda gŵyl â chyrhaeddiad byd-eang fel hyn ac rydym yn falch iawn o wneud hynny.
"Mae'n addas ein bod yn gwneud y cyhoeddiad yn nigwyddiad Chelsea Clinton yn Y Gelli. Mae hi'n ymgyrchydd pwerus dros greu a gwella cyfleoedd cymdeithasol ac economaidd, a dyma'n union y mae Urdd Gobaith Cymru yn ceisio'i wneud mewn perthynas â phobl ifanc.
"Mae rhannu neges heddwch ac ewyllys da'r Urdd yn rhyngwladol, a'i lledaenu hyd yn oed yn ehangach yn un amcanion yr Urdd wrth i'r mudiad baratoi at ddathliadau'r canmlwyddiant yn 2022."
Cafodd Alex gyfle i ddysgu ychydig o Gymraeg i Chelsea hefyd.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.