Yr actores Mari Emlyn yn trafod y profiad o heneiddio

  • Cyhoeddwyd

Mae'r actores Mari Emlyn yn ysgrifennu am y profiad o fynd yn hŷn, yr unigrwydd a chofleidio cyfleon newydd...

Rhyw hel meddyliau digon digalon fues i'n ddiweddar; teimlo henaint a cholled yn dechrau cael y gorau ohono i; teimlo fy mod i wedi cyrraedd llawr uchaf y tŵr.

Dydi'r ffaith i mi ganfod fy mod wedi colli rhywfaint o'm clyw, ddim wedi gwneud i mi deimlo dim iau.

'Mild hearing loss' oedd y diagnosis. Ac er nad oes gen i broblem efo gwisgo teclyn cymorth clyw, dydi fy niffyg clyw i ddim digon drwg ar hyn o bryd i orfod ei wisgo. Henaint ni ddaw ei hunan.

Wrth fynegi'r teimladau yma wrth ffrind, dywedodd wrtha i: 'Paid â theimlo'n drist ac edrych ar fywyd drwy lygaid Gwenlyn. Os wyt ti'n credu dy fod wedi cyrraedd y llawr ucha' - mae o yn dy allu di i fildio ecstenshyn!'

Rhoddodd ei eiriau wên ar fy wyneb a'm hysgwyd o'm hunan dosturi dwl.

Mater o agwedd ydi hi yn y pendraw ynte. Ia, pam lai! Mi fildia i ecstenshyn!

Ysmygu ac unigrwydd

Darllenais yn rhywle fod y risg o farw oherwydd unigrwydd yn llawer uwch nag ysmygu. Ac er fy mod i wedi rhoi'r gorau i ysmygu ers pum mis, (ac ydw, dwi'n dal i gyfrif!) gall unigrwydd daro unrhyw un, hyd yn oed pan ydach chi wedi'ch amgylchynu â phobl.

Dyma benderfynu felly i dderbyn gwahoddiadau, hyd yn oed pan nad oes gen i fawr o awydd bod yn gymdeithasol; cofleidio cyfleon tra galla i.

Ynghanol cynllunio ac adeiladu'r ecstenshyn dwi wedi bod ar dipyn o grwydr i wahanol lefydd.

A ninnau'n dathlu deng mlynedd ar hugain o briodas eleni, aethom gyda dau gwpl arall a briododd yr un flwyddyn â ni, yn griw bach hwyliog i dref Annecy yn ardal Haute-Savoie.

Gyda'r pen-blwydd priodas yma'n cael ei chyfri'n 'briodas perl' roedd o'n lle addas gan fod Annecy a'i lyn hardd yn cael ei ddisgrifio fel 'Perl yr Alpau'. Lleoliad a chwmni hyfryd.

Wedi dychwelyd o'r gwyliau, gweld bod yna wahoddiad i mi arwain sesiwn ysgrifennu creadigol yn Llandudno. Y rheswm i mi betruso cyn derbyn, oedd bod hwn yn Saesneg.

Dydw i erioed wedi arwain sesiwn o'r fath yn Saesneg o'r blaen. Ond dyma gofio'r ecstenshyn, a derbyn.

Rhaid cyfaddef fy mod wedi hen ddiflasu ar weld hysbysebion am weithdai ysgrifennu creadigol i bobl ifanc. Pam dim ond i bobl ifanc? Beth am fod yn fwy cynhwysol a'u targedu at ysgrifenwyr o bob oed?

Disgrifiad o’r llun,

Mari Emlyn mewn sesiwn ar waith menywod yn y celfyddydau ar Faes yr Eisteddfod yn Sir Gâr, 2014

Cefais wahoddiad yn ddiweddar i dreulio un dydd Sadwrn ar hyd llwybr llechi Eryri. Mi allwn i fod wedi rhaffu esgusodion dros beidio â derbyn, ond cofiais am yr ecstenshyn ac felly allan â fi!

Llwybr cylch 85 milltir o hyd ydi'r llwybr, ac aeth tair ohonom ar hyd y rhan rhwng Waunfawr a Nantlle.

O fewn pum munud i ddringo o briffordd Waunfawr i fyny i gyfeiriad y Lôn Wen, dyma glywed y gwcw am y tro cyntaf ers blynyddoedd! Does 'na ddim byd mawr o'i le ar fy nghlyw i, mae'n rhaid.

Oedodd y tair ohonom gan sefyll yn 'drindod faen' i wrando arni. Ac fe glywson ni ei chân ddwywaith wedyn.

Oedd hi'n ein dilyn ar ein taith ynte ai rhai gwahanol a glywsom wedyn? Dwn i ddim. Ond rhyfedd sut mae clywed ei chân yn rhoi gwên a'r fath foddhad.

Dwi adre o nhrafels heddiw ac wedi setlo yn fy ecstenshyn newydd a hynny heb orfod cael bildars na llanast na llwch na dim.

Mae ffenestri eang yr ecstenshyn yn taflu golau hyfryd dros fy nesg.

Does wybod pa gawodydd ddaw i faeddu'r ffenest fory, ond am heddiw, mae'r olygfa drwy ffenest fy ecstenshyn newydd yn fendigedig.

Efallai o ddiddordeb: