Ras feic angheuol 'wedi'i threfnu'n iawn', medd seiclwr

  • Cyhoeddwyd
Peter Walton and Judith GarrettFfynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Judith Garrett yn gwylio ei chariad Peter Walton yn cystadlu yn y ras

Mae seiclwr oedd yn rhan o ddigwyddiad angheuol mewn ras feicio mynydd yn Sir Ddinbych yn 2014 wedi dweud wrth lys nad oedd ganddo ddim cwynion am drefniadau'r gystadleuaeth.

Roedd Andrew Roger Cody, 32 oed, yn cystadlu yn y ras ar fferm Tan y Graig ger Llangollen ar 31 Awst 2014, pan gollodd reolaeth o'i feic a tharo'n erbyn Judith Garrett.

Bu farw Ms Garrett, 29 oed o Northumberland, o anafiadau difrifol i'w phen ddiwrnod yn ddiweddarach.

Mae dau o drefnwyr y gystadleuaeth, Michael Marsden a Kevin Duckworth, yn gwadu cyfres o gyhuddiadau iechyd a diogelwch yn ymwneud a'r digwyddiad.

'Trac yn berffaith'

Wrth roi tystiolaeth yn Llys y Goron Yr Wyddgrug ddydd Mawrth, dywedodd Mr Cody ei fod wedi bod yn beicio mynydd ers dwy flynedd pan ddigwyddodd y ddamwain.

Tra'n cael ei holi gan James Hill, QC - bargyfreithiwr yr erlyniad ar ran Cyngor Sir Ddinbych - dywedodd ei fod yn cystadlu er mwyn ceisio casglu pwyntiau i gyrraedd y lefel genedlaethol.

Roedd wedi bod o gwmpas y cwrs unwaith yn ddidrafferth ar 31 Awst 2014, ac ychwanegodd fod cyflwr y trac yn berffaith o berspectif cystadleuydd - ei bod hi'n sych ond wedi iddi fwrw glaw'n gynharach.

Disgrifiad o’r llun,

Digwyddodd y ddamwain ar dir fferm Tan y Graig ger Llangollen ym mis Awst 2014

Esboniodd Mr Hill fod y llys yn ymwybodol o'r hyn ddigwyddodd tuag at ddiwedd ei ail dro o gwmpas y cwrs, a gofynnodd a oedd yn cofio beth achosodd y ddamwain.

"Ddim yn benodol", atebodd Mr Cody, ond aeth ymlaen i ddisgrifio sut y llithrodd yr olwyn flaen i un ochr wrth lanio wedi naid, a'i fod wedi colli rheolaeth ar ei feic.

Gallai gofio iddo geisio taflu ei hun oddi ar y beic trwy ddefnyddio'r pedalau.

Doedd Mr Cody ddim yn gallu cofio unrhyw rwystrau gerllaw ond roedd yn cofio taro'n erbyn gwyliwr, a sylweddoli mai dynes ifanc oedd hi.

Galw am help

"Dwi'n cofio galw am help a cheisio helpu. Roedd amryw o bobl gerllaw," dywedodd, ac ychwanegodd ei fod yn cofio gweld parafeddyg cyn cael ei arwain o'r safle.

Wrth gael ei groesholi, dywedodd ei fod yn teimlo fod y cystadleuaeth wedi ei threfnu'n dda.

Roedd hi'n ymddangos bod digon o swyddogion ar ddyletswydd, meddai, ac roedd rhubanau wedi eu gosod o amgylch y cwrs fel y dylen nhw fod.

Tan y digwyddiad trasig, roedd pethau yn ôl y disgwyl, ychwanegodd.

Dywedodd hefyd nad oedd yn teithio'n gyflym ar ei feic wrth baratoi i neidio, a'i bod hi'n ymddangos fod y cwrs wedi ei osod i'w arafu rhywfaint cyn cyrraedd y neidiau.

Ffynhonnell y llun, BBC
Disgrifiad o’r llun,

Mae Michael Marsden yn gwadu'r cyhuddiadau yn ei erbyn

Mae dau ddyn o Sir Gaerhirfryn a Ffederasiwn Seiclo Prydain yn pledio'n ddieuog i gyfres o gyhuddiadau iechyd a diogelwch yn ymwneud â'r digwyddiad.

Mae Michael Marsden yn gwadu methu â chynnal y digwyddiad mewn ffordd oedd yn sicrhau nad oedd pobl yn agored i berygl.

Mae'r ffederasiwn wedi'u cyhuddo o fethu â goruchwylio'r ras a chymeradwyo'r asesiad risg.

Mae'r marsial Kevin Duckworth hefyd wedi'i gyhuddo o fethu â sicrhau iechyd a diogelwch gwylwyr wrth ymlacio ar fat diogelwch yn ystod y ras.

Mae'r achos yn parhau.