Heddlu'n amgylchynu dyn 'a machete' mewn hen adeilad

  • Cyhoeddwyd
Dyn ar do hen adeilad yn NhredegarFfynhonnell y llun, Empics

Mae plismyn arfog wedi amgylchynu hen adeilad gwag yn Nhredegar yn sgil adroddiadau bod dyn gyda chyllell machete yno.

Dywed Heddlu Gwent fod yna gysylltiad rhwng y digwyddiad yn Stryd y Bont a nifer o ddigwyddiadau eraill yn yr ardal yn gynharach ddydd Mawrth.

Fe gawson nhw'u galw yn wreiddiol i Ffordd Attlee am 08:45, wedi adroddiadau o ddamwain ffordd a dyn gyda machete.

Mae'r llu'n pwysleisio nad oes unrhyw berygl i'r cyhoedd wrth iddyn nhw ddelio â'r sefyllfa yn Stryd y Bont.

Yn ôl adroddiadau lleol, cafwyd hyd i ddyn yn gorwedd ar Stryd y Bont tua 08:30 wedi'i orchuddio mewn gwaed ar ôl i ddyn arall ymosod arno gyda machete.

Ffynhonnell y llun, Lee Marsh
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl adroddiadau fe redodd dyn gyda machete i'r adfail ar Stryd y Bont

Dywedodd tyst fod yr ymosodwr honedig "wedi rhedeg i mewn i'r hen adeilad cyfagos ac yna fanno mae wedi bod ers hynny".

"Mae'r heddlu'n oedi cyn mynd i mewn oherwydd cyflwr yr adeilad," meddai'r tyst. "Mae pawb ar bigau'r drain yma."

Mae adroddiadau fod dros 30 o blismyn yn delio â'r sefyllfa, gan gynnwys rhai gyda tharianau rhag terfysg, ac uned cŵn heddlu.

Mae tystion hefyd yn dweud bod dyn wedi'i weld ar un adeg ar do'r adeilad yn taflu cerrig ac yn gweiddi ar yr heddlu, a bod plismyn yn ceisio torri ffens ddiogelwch o amgylch yr adfail.

Dywedodd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru eu bod wedi danfon criw ambiwlans brys, parafeddyg mewn cerbyd ymateb cyflym a'u Tîm Ymateb Ardal Beryglus i'r ardal ar ôl cael galwad ychydig cyn 09:00.