Dioddefwyr camdriniaeth eisiau newid llysoedd teulu
- Cyhoeddwyd
Mae dioddefwyr camdriniaeth ddomestig yn galw am weddnewid llysoedd teulu, gan honni eu bod yn teimlo ofn a bod camdriniaeth yn parhau yn ystod achosion.
Yn ôl ymgyrchwyr mae toriadau i gymorth cyfreithiol wedi gwneud y sefyllfa yn waeth, gyda nifer yn dioddef o bwysau ariannol enbyd.
Mae Llywodraeth y DU wedi ymgynghori'n ddiweddar ar ddeddf camdriniaeth ddomestig newydd fyddai'n gwahardd y rhai sydd wedi cam-drin rhag croesholi'r dioddefwyr mewn llysoedd teulu.
Yn wahanol i nifer o achosion mewn llysoedd eraill, mae gwrandawiadau llysoedd teulu yn cael eu cynnal yn breifat er mwyn amddiffyn y bobl sy'n ymwneud a'r achos a'u plant.
Mae elusen Cymorth i Ferched yn dweud bod 70% o achosion mewn llysoedd teulu'n ymwneud â chamdriniaeth ddomestig, gyda nifer o ddioddefwyr ddim yn gallu fforddio talu am gynrychiolydd cyfreithiol.
Profiad dioddefwr
Mae rhaglen BBC Wales Live wedi siarad gyda rhai sydd wedi dioddef camdriniaeth ddomestig, ac sy'n feirniadol o'r system. Mae eu henwau wedi eu newid er mwyn eu hamddiffyn rhag unrhyw niwed pellach.
Cafodd cyn-bartner Jane ei ddyfarnu yn euog o ymosod ac mae ganddi orchymyn atal yn ei erbyn.
Ond roedd yn rhaid iddi ei wynebu mewn llys teulu ar gyfer gwrandawiadau cadwraeth pan ofynnodd ei blentyn os fyddai'n gallu byw gyda hi.
"Fe aethon ni i'r llys mae'n siŵr tua 20 o weithiau dros gyfnod o ddwy flynedd ac roedd y cyfan yn ymwneud gyda'i angen o i reoli," meddai.
Fe barhaodd yr achos mor hir fel nad oedd hi yn gallu fforddio talu am gyfreithiwr, ac roedd yn rhaid iddi gynrychioli ei hun.
"Fe ges i swydd arall er mwyn gallu rhoi bwyd ar y bwrdd a thalu'r biliau. Nes i werthu gemwaith. Ges i gar llai drud," meddai.
"Nes i roi stop ar bob taliad uniongyrchol diangen. Nes i fegera, benthyg ac ar un cyfnod fe es i at y banc bwyd."
'Rhoi'r gorau i'w gwaith'
Roedd toriadau i gymorth cyfreithiol yn 2012, wnaeth effeithio'r holl achosion mewn llysoedd teulu a sifil.
Ers 2011 mae nifer yr achosion o gamdriniaeth ddomestig mewn llysoedd teulu wedi codi 17%, gydag achosion sydd yn cael cymorth cyfreithiol wedi disgyn 28%.
Mae Sophie Hansen, sy'n aelod o grŵp goroeswyr, yn galw am weddnewid llysoedd teulu.
"Rydyn ni wedi clywed gan nifer o oroeswyr sydd hyd yn oed wedi rhoi'r gorau i'w gwaith er mwyn gallu cymhwyso ar gyfer cymorth cyfreithiol fel eu bod yn gallu cynrychioli eu plant yn gywir mewn llys teulu," meddai.
"Ni ddylai fod cost ariannol er mwyn gwarchod eich plant rhag niwed."
Mae'r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn dweud bod mesurau mewn lle er mwyn amddiffyn dioddefwyr yn well ac i'w gwneud hi'n haws cael cymorth cyfreithiol.
"Byddwn yn deddfu er mwyn gwahardd y rhai sydd wedi cam-drin rhag croesholi eu dioddefwyr mewn llys teulu mor fuan â phosib," meddai llefarydd.
"Mae'r gyfraith yn glir bod lles plentyn o'r pwys mwyaf, a barnwyr sydd i benderfynu beth sydd orau i'r plentyn ar ôl ystyried y ffeithiau ym mhob achos yn ofalus."
Angen gweithredu
Dywedodd yr Aelod Seneddol Liz Saville-Roberts bod newidiadau eisoes wedi wynebu oedi, a'i phryder yw y bydd deddfwriaeth sy'n gysylltiedig â Brexit yn ychwanegu at yr oedi hynny.
"Allai mond eu hannog [y llywodraeth] i gyflwyno'r ddeddfwriaeth nawr achos rydyn ni wedi bod yn disgwyl blynyddoedd am hyn," meddai.
"Mae pawb yn gytûn yn gyffredinol bod y ffordd mae dioddefwyr yn cael eu trin mewn llysoedd teulu a'r llysoedd sifil yn wahanol i'r ffordd maen nhw'n cael eu trin mewn llysoedd troseddol.
"Os yw'r ewyllys yna mae angen canfod amser i sicrhau bod hyn yn digwydd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Medi 2014