Diffyg cymorth cyfreithiol yn niweidio plant

  • Cyhoeddwyd
Dyn a dynes

Mae pryderon y gall y nifer cynyddol o gyplau sydd wedi gwahanu sy'n cynrychioli eu hunain yn y llys teulu niweidio cenhedlaeth o blant.

Mae'r ffigyrau cyntaf sydd wedi eu cyhoeddi ers newid y system cymorth gyfreithiol yn dangos bod nifer y bobl sy'n cynrychioli eu hunain mewn achosion yn y llys teulu wedi dyblu yn 2013-14 i'w gymharu â'r flwyddyn flaenorol.

Roedd mwy na hanner yr holl bobl oedd yn ymddangos yn y llys teulu heb eu cynrychioli gan gyfreithiwr.

Mae'r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn dweud eu bod nhw wedi cyflwyno newidiadau er mwyn lleihau oedi a thrio cadw anghydfod teuluol allan o'r llysoedd.

Newidiadau'n 'torri'r gyfraith'

Mae cyn-farnwr wedi awgrymu y gall effaith tebygol diffyg cymorth cyfreithiol arwain at dorri'r Ddeddf Plant 1989 - sy'n nodi bod "unrhyw oedi wrth benderfynu'r cwestiwn yn debygol o effeithio ar les y plentyn."

Daeth y Ddeddf Cymorth Cyfreithiol, Dedfrydu a Chosbi Troseddwyr 2012 i rym ym mis Ebrill y llynedd, gan gael gwared ar yr hawl i gymorth cyfreithiol i fwyafrif yr achosion yn ymwneud â chyfraith teulu breifat.

Dim ond y rheiny sydd wedi dioddef trais domestig, neu'r rheiny sy'n herio gorchymyn gofal gan yr awdurdod lleol gan ddefnyddio'r broses cyfraith gyhoeddus, sy'n parhau'n gymwys ar gyfer cymorth cyfreithiol.

Ond mae barnwyr, ynadon a chyfreithwyr wedi beirniadu'r drefn newydd, gan rybuddio ei fod yn atal pobl fregus rhag cael cyfiawnder, a'i fod yn achosi oedi pellach yn y system llys teulu gan gael effaith negyddol ar blant.

'Brwydr i'w hennill'

Mae Crispin Masterman, y cyn-farnwr teulu ar gyfer Caerdydd a Phontypridd, wedi dweud wrth BBC Cymru bod perygl y byddai lles emosiynol, meddyliol a seicolegol plant yn ymwneud â'r achosion yn cael ei niweidio gan y broses yn y llysoedd.

Dywedodd y cyn-farnwr cylchdaith Mr Masterman: "Mae'r Ddeddf Plant yn dweud mai lles y plentyn yw'r ystyriaeth bennaf yn yr achosion yma. Ond mae'r ddeddf hefyd yn dweud bod unrhyw oedi yn mynd yn erbyn pennaf les y plentyn, ac felly mae unrhyw beth sy'n golygu bod datrys pennaf les y plentyn yn cymryd hirach, o reidrwydd, yn niweidio'r plentyn."

Dywedodd Mr Masterman bod cymryd cyfreithwyr "allan o'r darlun" yn y rhan fwyaf o achosion wedi arwain at fwy o wrandawiadau ble mae'r unigolion yn anghytuno ac oedi pellach wrth ddatrys achosion, a bod hynny wedi cael effaith niweidiol ar blant.

Dywedodd nad oedd modd mesur yr effaith posibl ar blant sy'n rhan o'r broses llys teulu - ble mae materion megis preswylio, cytundebau rhwng rhieni wedi gwahanu ynglŷn â gweld plant a materion ariannol yn cael eu datrys - ac mewn rhai achosion na fyddai'r effaith yn dod i'r amlwg am nifer o flynyddoedd.

"Mae'r niwed sy'n cael ei wneud yn niwed emosiynol, ac mae'n siwr, yn y rhan fwyaf o achosion, yn seicolegol hefyd. A'r drafferth ydi nad ydi rhieni'n gweld hyn, maen nhw'n poeni gymaint am eu problemau eu hunain nes eu bod nhw'n anghofio mai lles y plentyn yw'r ystyriaeth bennaf."

"Tydyn nhw ddim yn gallu rhoi eu materion nhw i un ochr er mwyn rhoi eu plant yn gyntaf. Mae hynny'n gwbl ddealladwy, dyna yw natur pobl. Mae rhieni yn tueddu i'w weld fel brwydr i'w hennill, yn hytrach na mater i'w ddatrys."

'Dim er budd y plentyn'

Mae rhai hefyd wedi codi pryderon ynglŷn â'r posibilrwydd y gall y rheiny sydd wedi dioddef trais domestig wynebu cael eu croesholi gan bartner treisgar sy'n cynrychioli ei hun mewn gwrandawiad yn y llys teulu.

Rhybuddiodd Sophie Hughes, arbenigwraig ar gyfraith teulu, bod perygl yn rhai o'r achosion cymhleth y gall y plant gael eu rhoi yn y system ofal:

"Gall rhywun ddim ond dychmygu'r effaith ar blentyn o gael rhieni sy'n treulio misoedd, neu flynyddoedd mewn rhai achosion, yn mynd drwy'r llysoedd i benderfynu beth fydd y trefniadau.

"Ni all hyn fod er budd y plentyn, a dim ond amser a ddengys beth fydd yr effaith o wneud hyn. Efallai y bydd gennym ni genhedlaeth o blant sydd heb dderbyn triniaeth ddigonol gan y system ac nad ydi eu pennaf les wedi cael ei ystyried."

'Cyflymach, rhatach, llai ingol'

Dywedodd llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Gyfiawnder: "Ers 2011 rydym wedi cyflwyno newidiadau sylweddol er mwyn lleihau oedi a chadw anghydfod teuluol allan o'r llysoedd.

"Gall cyflafareddu fod yn gyflymach, yn rhatach ac yn llai ingol na mynd drwy'r broses o fynd i'r llys. Dyma pam bod cymorth cyfreithiol yn parhau i fod ar gael ar gyfer cyflafareddu a pham ein bod ni wedi cyhoeddi fwy o arian ar gyfer sesiynau cyflafareddu am ddim, ynghyd â gwella'r cyngor a'r wybodaeth sydd ar gael i gyplau sy'n gwahanu.

"Ble mae pobl yn cynrychioli eu hunain yn y llys - a ddigwyddodd yn tua hanner o'r holl achosion cyfraith teulu breifat yn y flwyddyn cyn i ni gyflwyno'r newidiadau i'r system cymorth gyfreithiol - rydym ni wedi gwella'r wybodaeth sydd ar gael iddyn nhw. Yn ogystal mae gan farnwyr arbenigedd i'w cefnogi - gan egluro'r prosesau a beth yw'r disgwyliadau ohonyn nhw."