CNC yn cefnogi gwaredu ar fwd Hinkley yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Hinkley Point CFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Byddai 300,000 tunnell o fwd o Hinkley Point C yn cael ei waredu oddi ar arfordir Caerdydd

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cefnogi cynlluniau i waredu ar fwd a gwaddodion o orsaf bŵer Hinkley Point C oddi ar arfordir Caerdydd.

Dyma oedd y rhwystr mawr olaf cyn bod modd bwrw 'mlaen â'r cynlluniau.

Bydd miloedd o dunelli o ddeunydd yn cael ei garthu o'r safle adeiladu yng Ngwlad yr Haf, ond mae ble y bydd yn cael ei roi wedyn wedi bod yn destun gwrthwynebiad.

Ddydd Mercher dywedodd CNC eu bod wedi cymeradwyo'r cynllun monitro ar gyfer gwaredu â'r deunydd yn nyfroedd Cymru.

'Dim niwed i bobl'

Dywedodd CNC eu bod yn "hyderus na fydd y gweithgaredd arfaethedig yn niweidio pobl na'r amgylchedd a bod y deunydd yn addas i'w waredu".

Mae datblygwr yr orsaf bŵer eisiau gwaredu 300,000 tunnell o fwd ychydig dros filltir oddi ar arfordir Bae Caerdydd.

Ffynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Bydd gorsaf newydd Hinkley ger y ddwy atomfa sydd eisoes ar y safle

Ond mae gwrthwynebwyr yn dweud y gallai'r mwd fod wedi'i heintio â gwastraff niwclear o orsafoedd Hinkley.

Maen nhw hefyd yn honni bod profion ar samplau wedi bod yn annigonol a bod diffyg tystiolaeth am sut y bydd y llanw yn symud y gwaddodion ar ôl ei adael ar y safle, sy'n cael ei alw'n "Cardiff Grounds".

'Testun pryder'

Dywedodd rheolwr gwasanaethau trwyddedu CNC, John Wheadon: "Rydym yn gwneud yn siŵr na fydd gweithgareddau o'r fath yn niweidio amgylchedd y môr, sy'n gartref i gynefinoedd a bywyd gwyllt gwerthfawr ac sy'n hynod bwysig i'n lles a'n heconomi.

"Gwyddom ei fod yn destun pryder mawr i nifer o bobl, ond rydym eisiau eu sicrhau bod yr holl elfennau yn y cais wedi'u hystyried yn fanwl."

Ychwanegodd bod rhagor o waith samplu a monitro wedi cael ei gynnal, a bod CNC felly wedi "rhoi ein caniatâd terfynol i'r cwmni waredu'r gwaddodion ar 'Cardiff Grounds'".

Mae samplau o'r safle wedi cael eu profi gan arbenigwyr annibynnol yn y gorffennol. Y casgliad oedd eu bod yn dderbyniol.

Mae honiadau y gallai'r mwd fod wedi'i heintio wedi cael eu disgrifio gan y datblygwyr fel tacteg "codi braw".