Mwd Hinkley: 'Ddim yn peryglu pobl'

  • Cyhoeddwyd
Llun artist o atomfa newydd Hinkley Point CFfynhonnell y llun, EDF
Disgrifiad o’r llun,

Llun artist o atomfa newydd Hinkley Point C

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn dweud nad yw mwd a garthwyd o Fôr Hafren oddi ar arfordir Hinckley Point yn peryglu pobl, yr amgylchedd, na bywyd gwyllt yr ardal.

Yn ôl CNC mae'r canlyniadau cemegol a radiolegol o fewn y ffiniau diogel a derbyniol.

Bydd y mwd nawr yn cael ei waredu mewn safle waredu oddi ar arfordir de Cymru ger Caerdydd.

Roedd gwrthwynebwyr wedi galw am atal y drwydded ac am gynnal rhagor o brofion ar y mwd, o safle hen atomfeydd Hinkley Point A a B yng Ngwlad yr Haf.

Dywedodd John Wheadon, Rheolwr Gwasanaethau Trwyddedu CNC: "Mae'r gwaddodion o'r safleoedd carthu wedi cael eu profi'n drylwyr gan arbenigwyr annibynnol.

"Rydym yn fodlon nad oes unrhyw berygl i bobl na'r amgylchedd, a bod y deunydd yn ddiogel i'w waredu."

Cwmni NNB GenCo fydd yn cwblhau'r gwaith, wedi iddynt dderbyn trwydded forol i waredu deunydd wedi'i garthu gan CNC yn 2014.

Mae amod i'r drwydded sy'n gofyn i NNB GenCo gasglu samplau o'r gwaddod gwely môr yn y safleoedd carthu arfaethedig i'w profi am gemegau niweidiol a deunydd radiolegol cyn cael gwaredu unrhyw ddeunydd.