Opera'n cyflwyno hanes ymgyrchydd hawliau merched amlwg
- Cyhoeddwyd
Bydd opera gomig am ymgyrchydd blaenllaw dros gydraddoldeb i fenywod yn cael ei pherfformio am y tro cyntaf nos Iau ym mro ei mebyd.
Roedd Margaret Haig Thomas, neu Arglwyddes Rhondda, yn un o aelodau amlycaf yr ymgyrch i sicrhau'r bleidlais i ferched, ac i fenywod gael eistedd yn Nhŷ'r Arglwyddi.
Cafodd ei charcharu ar ôl ceisio dinistrio blwch post yng Nghasnewydd yn 1913 gyda bom cemegol, ac fe oroesodd drychineb suddo llong enwog y Lusitania.
Wedi'r première byd nos Iau o Rhondda Rips It Up! yng nghanolfan Glan yr Afon, Casnewydd, fe fydd cynhyrchiad Opera Cenedlaethol Cymru (WNO), sydd â chast o ferched yn unig yn teithio ar draws Cymru a Lloegr.
"Roedd Arglwyddes Rhondda yn rhan bwysig o'r frwydr dros gydraddoldeb i ferched ac o berfformio'r opera yma nawr... ni allai fod yn fwy perthnasol," meddai'r mezzo-soprano Madeleine Shaw, sy'n portreadu'r prif gymeriad.
"Fe fydd, gobeithio, yn tanio'r hyn mae menywod yn brwydro drosto heddiw wrth i ni deithio'r wlad."
Cafodd yr opera ei chomisiynu i nodi canmlwyddiant sicrhau'r bleidlais i ferched.
Cafodd Margaret Haig Thomas ei geni yn 1883 yn unig blentyn i'r dyn busnes a'r gwleidydd Rhyddfrydol, Is-Iarll David Thomas.
Fel ysgrifennydd cangen Casnewydd o'r Women's Social and Political Union - y mudiad a sefydlwyd gan Emmeline Pankhurst - hi arweiniodd ymgyrch y swffragetiaid ar draws de Cymru, gan gymryd rhan mewn sawl cyfarfod tanllyd.
Fe ymunodd â'r teulu Pankhurst mewn gorymdeithiau protest, ac fe gafodd ei hanfon i garchar Brynbuga am wrthod talu dirwy am geisio dinistrio'r blwch post.
Cafodd ei rhyddhau o'r carchar ar ôl cychwyn streic newyn.
Aeth ymlaen i gyhoeddi cylchgrawn ffeministaidd wythnosol, Time and Tide, oedd yn cynnwys cyfraniadau gan bobl fel Virginia Woolf a CS Lewis.
Yn 1915, fe oroesodd hi a'i thad ymosodiad yr Almaenwyr a suddodd llong y Lusitania, trwy ddal gafael ar fwrdd pren yn y dŵr.
Roedd y ddau'n dychwelyd o'r Unol Daleithiau ar ôl helpu trefnu cyflenwadau arfau i luoedd arfog Prydain.
Roedd yn wraig fusnes ac yn gyfarwyddwr ar fyrddau 33 o gwmnïau - yn y meysydd glo, dur a'r diwydiant llongau, yn bennaf.
Fe sefydlodd gorff rhwydweithio Efficiency Club ar gyfer merched busnes ym Mhrydain.
Brwydr Tŷ'r Arglwyddi
Wedi marwolaeth ei thad yn 1918, fe etifeddodd ei deitl, ond doedd dim hawl iddi eistedd yn Nhŷ'r Arglwyddi.
Ymgyrchodd yn frwd yn erbyn hynny ond bu farw yn 1958, ychydig fisoedd cyn cael y maen i'r wal.
Yn 1922, fe gafodd ysgariad oddi wrth ei gŵr Syr Humphrey Mackwort, cyn cael perthynas gyda sawl menyw.
Mae plac yn nodi'r rhan o Ffordd Rhisga, Casnewydd lle roedd y blwch post y ceisiodd Margaret Haig Thomas ei ddinistrio, ac yn 2011, fe gafodd darlun ohoni ei osod yn San Steffan i nodi ei chyfraniad a thros 40 mlynedd o ymgyrchu.
Mae hi hefyd ar restr o 100 Cymraes dylanwadol ac fe fydd cerflun o un o'r merched yn cael ei greu a'i osod yn Sgwâr Canolog Caerdydd yn 2020.
Er holl orchestion Arglwyddes Rhondda, fe benderfynodd cynhyrchwyr Rhondda Rips It Up! gyflwyno'r hanes mewn ffordd ysgafn, yn null y neuadd gerddoriaeth Edwardaidd.
"O'r dechrau, fe benderfynon ni ei wneud fel comedi," meddai awdur y geiriau, Emma Jenkins, sy'n dweud bod gweithiau Gilbert and Sullivan, straeon Jeeves and Wooster gan PG Wodehouse a ffilmiau Carry On wedi bod yn ddylanwad arni.
Mae'r caneuon gwreiddiol hefyd wedi'u hysbrydoli gan sloganau'r swffragetiaid.
I gyd-fynd â'r opera, mae yna raglen o brosiectau ieuencitd a chymunedol yn cwmpasu themâu fel protest, gwrthryfel a hawliau dynol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Mai 2018
- Cyhoeddwyd6 Chwefror 2018
- Cyhoeddwyd6 Chwefror 2018