Y cwpl 86 oed wnaeth ddisgyn mewn cariad... ar Facebook

  • Cyhoeddwyd
Enid a Viv
Disgrifiad o’r llun,

Mae Enid a Vivian yn mwynhau cerdded a chwarae gemau fel 'Scrabble' a 'Cribbage'

Dydy hi ddim yn anghyffredin i rywun ddod o hyd i gariad ar y cyfryngau cymdeithasol y dyddiau yma.

Ond go brin bod perthynas llawer o gyplau 86 oed wedi cychwyn ar Facebook.

Dyna'n union ddigwyddodd i Enid Davies a Vivian Harris, sy'n eitem ers rhyw bedair blynedd.

"O'n i'n digwydd bod ar Facebook ac roedd 'na sgwrs yn mynd ymlaen am fefus," meddai Enid Davies.

"Roedd y sgwrs yn dweud bod 'na ddigonedd o fefus ond bod jam yn anodd i'w 'neud a dyma fi'n d'eud ei fod o'n hawdd i 'neud os wnewch chi roi ascorbic acid ynddo fo a dyma 'Mr Harris' yn dod i fewn wedyn a d'eud: 'wel am beth hyll i roi ym mwyd rhywun'.

"Nesh i glicio ar ei lun o a dyma fi'n gweld ei fod o'n Gymro Cymraeg. Ddaru ni jysd cychwyn siarad, a tecstio, Skype wedyn, a dyna fo - hanes ydi'r gweddill!"

Fe wnaeth y ddau gyfarfod am y tro cyntaf yn Llanberis ac maen nhw bellach yn treulio cyfnodau hir yng nghwmni ei gilydd ac wedi mynd ar sawl gwyliau dramor.

Unigrwydd a ffydd

Mae Enid wedi bod yn byw ar fferm yn Eglwysbach ger Llanrwst ers 60 mlynedd - "ac yma bydda i," meddai.

Roedd hi'n briod am 46 mlynedd cyn golli ei gŵr, ac mae o, ei chwaer, a'i merch wedi'u claddu ar dir y fferm.

"Rhaid i mi dd'eud, dwinna'n cael cyfnodau unig - cyfnodau hir yn y diwrnod heb siarad efo neb.

"Ond dwi'n bregethwr cynorthwyol yn yr Eglwys yng Nghymru, ac yn pregethu mewn capeli, a dwi'n meddwl mai fy ffydd helpodd fi i ddygymod efo colli Meinir, fy merch, yn 45 oed."

Disgrifiad o’r llun,

Daeth Enid a Viv wyneb yn wyneb am y tro cyntaf yng ngwesty'r Royal Victoria yng nghysgod Yr Wyddfa, Llanberis

Yn wreiddiol o ochrau Ynysybwl yn Rhondda Cynon Taf, mae Viv bellach yn byw yn Nottingham ers rhyw 25 mlynedd - rhyw 150 milltir o gartref Enid.

Roedd yn 70 oed pan ddechreuodd ddysgu Cymraeg, ac mae bellach yn ei harddel yn ddi-baid ar Facebook - a gydag Enid wrth gwrs.

"Mae hi'n wych, mae hi'n rhyfeddol, mae hi'n berffaith," meddai Viv.

"[Roedden] ni'n ffrindiau reit dda o'r cychwyn cynta' - love at first sight!"

Ac mae Enid yn cytuno.

"Munud nesh i gyfarfod o o'n i'n gw'bod ei fod o'n wahanol," meddai.

"Peth dwytha' o'n i isio oedd dyn yn fy mywyd ar ôl bod yn weddw - ond dyna'n union sydd wedi digwydd.

"Mae o'n ddyn arbennig. 'Da ni'n chwerthin lot ac yn cael lot o hwyl efo'n gilydd."

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Enid a Viv gynnig i ymddangos ar y gyfres Priodas Pum Mil ar S4C...

Ac er bod pethau'n mynd yn dda rhwng y ddau, does dim bwriad gan yr un o'r ddau i briodi.

Dim hyd yn oed os gawn nhw'r briodas am ddim.

"Mi gesh i alwad ffôn pan o'n i'n Nottingham rhyw fis neu ddau yn ôl - o'n i isio chwerthin," meddai Enid.

"'Yda chi'n 'nabod y rhaglen Priodas Pum Mil? Wel fysa modd talu am bopeth...' 'Dydan ni ddim yn priodi' medda' finna'!

"Do'n i ddim yn credu mod i'n gwrthod ond dydw i ddim isio priodi! Dydan ni ddim hyd yn oed isio byw efo'n gilydd ond mi ydan ni'n treulio lot o amser efo'n gilydd.

"Ar ôl bod yn weddw am tua 11 mlynedd dwi'n licio fy space fy hun!"