Estyn: 'Rhieni'n dewis rhwng gofal plant ac addysg'

  • Cyhoeddwyd
plant yn chwaraeFfynhonnell y llun, Getty Images

Gallai polisi gofal plant am ddim Llywodraeth Cymru arwain at lai o blant yn dechrau addysg yn gynnar, yn ôl yr arolygiaeth ysgolion.

Mae plant tair a phedair oed gyda rhieni sy'n gweithio yn gymwys am 20 awr o ofal plant am ddim yr wythnos, ar ben y 10 awr o ddarpariaeth addysg gynnar.

Ond oherwydd bod y gofal a'r addysg fel arfer yn cael eu darparu mewn llefydd gwahanol, mae Estyn yn pryderu y bydd rhieni ond yn dewis yr 20 awr o ofal.

Dywedodd Llywodraeth Cymru nad oedd unrhyw "dystiolaeth gadarn" fod y polisi'n arwain at lai yn cymryd llefydd addysg gynnar.

'Anymarferol'

Mae'r polisi 30 awr yn cael ei dreialu ar hyn o bryd mewn saith awdurdod lleol ac mae'r llywodraeth yn dweud y bydd ar gael ar draws Cymru erbyn 2020.

Dywedodd Estyn wrth bwyllgor plant y Cynulliad y gallai un "canlyniad anfwriadol" o'r polisi olygu bod llai yn dewis dilyn addysg 'cyfnod sylfaen'.

Mae'r rhan fwyaf o blant yn cael eu haddysg gynnar mewn ysgol, ond i'r rhan fwyaf, fe fydd y gofal plant yn digwydd rhywle arall.

Dywedodd Jane Rees o Estyn fod problemau ymarferol yn gallu arwain at rieni'n gorfod dewis rhwng addysg a gofal plant.

jane rees
Disgrifiad o’r llun,

Dywedod Janes Rees bod rhieni weithiau'n gorfod dewis rhwng addysg neu ofal am ddim

"Ein pryder ni yw nad ydyn nhw'n cymryd rhan 'cyfnod sylfaen' y cynnig, yn enwedig os yw ar ddau safle gwahanol," meddai.

"Ar hyn o bryd, mae llawer yn dewis y 'cyfnod sylfaen' achos i rieni sy'n meddwl am ddychwelyd i'r gwaith, mae ganddyn nhw o leiaf 10 awr o addysg wedi'i gyllido i'w plentyn.

"Ond os yw hynny'n cael ei gyfuno gydag 20 awr o ofal plant, fe allai rhieni, os yw'n anymarferol iddyn nhw gael y ddarpariaeth gofal yn ogystal â'r addysg, orfod gwneud penderfyniadau.

"Ac un o'r penderfyniadau hynny o bosib fyddai eu bod nhw'n dewis y gofal plant am ddim ond nid yr elfen addysg."

'Llai yn dewis gofal'

Yn eu tystiolaeth ysgrifenedig i'r pwyllgor, dywedodd Estyn fod pryderon hefyd bod nifer y meithrinfeydd oedd yn cynnig y 'cyfnod sylfaen' yn gostwng oherwydd y gwahaniaethau cyllid.

"Gan fod elfen gofal plant y cynnig yn cael ei gyllido ar gyfradd uwch, rydym yn bryderus y gallai lleoliadau benderfynu cynnig yr elfen gofal plant yn unig," meddai'r arolygiaeth.

"Gallai hyn gael effaith ar ddewis rhieni os oes llai o lefydd yn cynnig yr addysg am ddim.

"Os nad yw plant yn cael yr addysg am ddim o safon uchel sy'n ddyledus iddyn nhw, gallai hynny effeithio'n negyddol ar ddatblygiad y plentyn.

"Mae Estyn yn pryderu nad yw ysgolion wedi cael digon o gyfleoedd i drafod y cynnig yn llawn."

Mae llai na'r disgwyl wedi cymryd y cynnig o ofal plant am ddim, gyda'r trafferthion wrth ganfod gofal sy'n cyd-fynd â darpariaeth addysg yn un rheswm posib.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Ar hyn o bryd nid oes tystiolaeth gadarn i awgrymu bod gweithredu'r Cynnig Gofal Plant yn arwain at lai yn dewis llefydd addysg gynnar 'Cyfnod Sylfaen'.

"Fodd bynnag byddwn yn parhau i fonitro unrhyw effaith bosib wrth i'r Cynnig Gofal Plant gael ei brofi a'i ddatblygu."