Heddlu Gwent i gynnig cwrs addysgol i droseddwyr alcohol

  • Cyhoeddwyd
Yfed alcoholFfynhonnell y llun, Thinkstock

Gall bobl sy'n dod i'r ddalfa dan ddylanwad alcohol osgoi cofnod troseddol a'r posibilrwydd o fynd i'r llys, trwy fynd ar gwrs addysgol am ddwy awr.

Mae cynllun Heddlu Gwent yn debyg i'r cwrs ymwybyddiaeth cyflymder ar gyfer gyrwyr, drwy roi'r opsiwn i droseddwyr dalu £46.50 am sesiwn yn hytrach na chael dirwy.

Bydd pobl sy'n mynychu'n cael eu haddysgu am effeithiau hirdymor alcohol a sut i osgoi ymddygiad sy'n debygol o'u harwain at dorri'r gyfraith.

Dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent, Jeff Cuthbert nad yw'r cynllun yn ffordd o "osgoi mynd i'r carchar" ond cyfle i bobl "gymryd cyfrifoldeb dros eu gweithredoedd".

'Torri'r cylch'

Yn ôl Heddlu Gwent nod y cwrs yw lleihau nifer y bobl sy'n aildroseddu a thorri'r cylch ar y cychwyn.

Bydd y cynllun yn canolbwyntio ar effaith yfed gormod nid yn unig ar yr unigolyn ond ar deulu, ffrindiau a'r gymuned leol.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Cynigir y cwrs â disgresiwn ac fel arfer caiff ei anelu at bobl sy'n troseddu am y tro cyntaf neu bobl sy'n cyflawni mân droseddau dan ddylanwad alcohol.

Ni fydd pobl sy'n dewis mynd ar y cwrs yn ymddangos ar wiriadau troseddol - ond ni fyddant yn cael cynnig mynd ar y cwrs eto os ydyn nhw'n aildroseddu.

'Diogelu'r gymuned'

Mae'r Prosiect Dargyfeirio Alcohol yn "agwedd allweddol" o'r strategaeth i fynd i'r afael â phroblemau alcohol yng Ngwent yn ôl y Prif Arolygydd Richard Blakemore.

"Rydym am helpu pobl sy'n gwneud un penderfyniad anghywir i beidio â gwneud yr un camgymeriad eto" meddai.

Ychwanegodd: "Rydym yn credu'n gryf y bydd hyn yn helpu i leihau digwyddiadau meddwol ar ein strydoedd a gwneud ein cymunedau'n fwy diogel."

Grŵp TTC fydd yn cynnal y dosbarthiadau, a dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cleientiaid Sharon Haynes fod y cwrs wedi ei gynllunio i "addysgu pobl".

"Bydd llawer o bobl nad ydyn nhw erioed wedi bod mewn trwbl o'r blaen felly, gan weithio gyda'r lluoedd heddlu, rydym am edrych ar sut y gallwn ni eu haddysgu nhw i sicrhau nad ydyn nhw'n aildroseddu.

"Bydd cyfle hefyd i lunio cynllun ar gyfer newid ymddygiad, a bydd ffynonellau eraill o gymorth a chefnogaeth ar gael.' meddai Ms Haynes.