Undeb Annibynwyr i ail feddwl rheolau diogelu data

  • Cyhoeddwyd
Undeb yr Annibynwyr Cymraeg

Mae Undeb yr Annibynwyr yn gofyn am gyngor cyfreithiol yn dilyn cyhoeddi canllawiau newydd yn sgil y ddeddf diogelu data.

Roedd yr Undeb wedi cynghori capeli i beidio â chyhoeddi gwybodaeth am aelodau yn eu hadroddiadau ariannol.

Mae ymateb i'r canllawiau newydd wedi bod yn gymysg gyda rhai yn eu disgrifio fel rhai "llawdrwm".

Dywedodd Glyn Williams, Llywydd Undeb yr Annibynwyr, ei bod hi'n "amhosib i blesio pawb" ond fod "rhaid rhoi canllawiau synhwyrol".

'Canllawiau haearnaidd'

Fel pob elusen, ma'n rhaid i gapeli ac eglwysi gyhoeddi adroddiad blynyddol sy'n dangos eu sefyllfa ariannol.

Traddodiad yr annibynwyr yw cynnwys enwau a chyfeiriadau'r aelodau unigol - yn ogystal â faint ma'n nhw'n cyfrannu at yr achos.

Yn dilyn gwrthwynebiad yn y cyfarfod blynyddol daeth hi i'r amlwg fod rhai aelodau yn galw ar yr Undeb i ail feddwl.

Yn ôl y cyfreithiwr Hugh Thomas does dim angen i'r Undeb fod mor "haearnaidd" gyda'r canllawiau.

Er ei fod yn "parchu hawl yr unigolyn i gadw gwybodaeth dan glo", roedd yn awyddus i weld y drefn draddodiadol yn parhau.

Disgrifiad o’r llun,

Glyn Williams yw Llywydd Undeb yr Annibynwyr

'Canllawiau synhwyrol'

Mae'r canllawiau newydd yn golygu nad oes hawl gweld cyfraniad unrhyw aelod.

Noda'r adroddiad hefyd na ddylid cyhoeddi unrhyw fanylion am roddion a dylid cadw caniatâd i rannu gwybodaeth mewn ffeil dan glo.

Dywedodd Mr Williams bod yr Undeb wedi ceisio bod "yn hollol deg".

Ychwanegodd: "Y gwirionedd yw ar ddiwedd y dydd dydyn ni ddim am blesio pawb, ond rhaid i ni roi canllawiau sydd yn synhwyrol ac sy'n arwain pobl i gyfarfod â'r gofynion hynny."

Bydd yr undeb nawr yn gofyn am gyngor cyfreithiol newydd yn dilyn y galwadau i ail feddwl.