House of Fraser i gau siopau Caerdydd a Chwmbrân

  • Cyhoeddwyd
House of FraserFfynhonnell y llun, Google

Mae disgwyl i ddwy o siopau House of Fraser yng Nghymru gau wedi i'r cwmni gyhoeddi ei fwriad i gau 31 o'u safleoedd dros y DU ac Iwerddon.

Dywedodd y cwmni, sydd â chyfanswm o 59 o siopau, fod siopau Caerdydd a Chwmbrân ar y rhestr.

Dros Brydain, y gred yw y bydd 2,000 o swyddi staff House of Fraser yn cael eu heffeithio, a 4,000 o weithwyr cwmnïau eraill o fewn y siopau.

Mae cyfanswm o 438 o bobl yn gweithio yn y siopau yng Nghymru, gyda 342 yng Nghaerdydd a 96 yng Nghwmbrân, meddai'r cwmni.

Dywedodd y cwmni bod "newid sylfaenol yn y diwydiant manwerthu" yn golygu bod angen i House of Fraser "addasu ar frys".

House of Fraser
Disgrifiad o’r llun,

Roedd arwydd ar ddrws y siop yn Nghaerdydd fore Iau yn dweud y byddai'n agor yn hwyrach nag arfer

Mae disgwyl i'r siopau fydd yn cau barhau ar agor tan ddechrau 2019.

Mae'r safle yng Nghaerdydd yn hen adeilad siop Howell's, oedd yn fusnes ddechreuodd yn 1865.

Erbyn marwolaeth y sylfaenydd James Howell yn 1909, roedd y cwmni'n cyflogi dros 400 o weithwyr.