Sbwriel yn creu 'llanast' ym Mangor Uchaf

  • Cyhoeddwyd
gwylanodFfynhonnell y llun, Thebangoraye.com

Mae trigolion a pherchnogion busnesau ym Mangor Uchaf yn bryderus bod problem sbwriel yn gwaethygu yno.

Mae'n ardal sydd â nifer o fyfyrwyr yn byw yno oherwydd ei fod yn agos at brif adeiladau'r brifysgol.

Mae'n debyg bod y sbwriel yn gwaethygu ar yr un adeg pob blwyddyn, pan fo myfyrwyr yn gadael.

Dywedodd Cyngor Gwynedd eu bod yn gweithio gyda Phrifysgol Bangor i sicrhau fod casgliadau ychwanegol ar adegau prysur.

'Llanast'

Dywedodd Gerallt Williams o Dafarn Y Glôb ym Mangor Uchaf: "Mae wastad wedi bod problem sbwriel yma gan fod Bangor Uchaf yn newid yn gyson, gyda phobl yn dod mewn a mynd allan.

"Does 'na ddim cysondeb o ran casglu sbwriel, felly mae o'n bob man.

"Yr wythnos yma gafodd o ddim ei gasglu tan 14:00, felly gafodd y gwylanod, y cŵn a'r cathod field day."

Ychwanegodd ei fod yn credu ei bod yn broblem sy'n gwaethygu.

"Yn y chwarter canrif dwi 'di bod yma dwi heb weld y stryd yma mor wael," meddai Mr Williams.

"Tra'n cerdded lawr i'r dref, mae'n llanast. Crafu'r wyneb ym Mangor - mae'n ofnadwy."

Rhagor o gasgliadau

Dywedodd y Cynghorydd Catrin Wager ei bod hi wedi ceisio mynd i'r afael â'r broblem.

"'Dwi a chynghorwyr eraill Plaid Cymru ym Mangor wedi bod yn trio trefnu digwyddiadau casglu sbwriel yn eithaf rheolaidd," meddai.

"Ar ôl y problemau'r wythnos yma 'da ni wedi trefnu un ar gyfer yr wythnos nesaf.

"'Da ni hefyd, yn enwedig yn ystod y cyfnod prysur yma, yn trio cadw llygad ar bethau, ac os oes 'na sbwriel wedi'i adael, sicrhau ein bod ni yn gadael i'r cyngor wybod i drio ei glirio fo cyn gynted â phosib."

Mewn datganiad, dywedodd Cyngor Gwynedd eu bod eisoes yn gweithio gyda'r brifysgol er mwyn sicrhau fod rhagor o gasgliadau ar adegau prysur.

Maen nhw'n cydnabod bod llawer o wastraff ar strydoedd Bangor Uchaf yr wythnos yma, a'u bod yn bwriadu cynnal cyfarfodydd pellach gyda'r brifysgol i adeiladu ar y trefniadau presennol.