Yr iaith Gymraeg ar frig cynllun newydd Mozilla
- Cyhoeddwyd
Mae Uned Technolegau Iaith Prifysgol Bangor wedi cynorthwyo cwmni rhyngwladol sy'n gyfrifol am y porwr gwe Firefox i sicrhau fod yr iaith Gymraeg ar frig cynllun newydd amlieithog.
Mae cwmni Mozilla o California wedi lansio cynllun Common Voice, sef arf i dorfoli recordio pobl yn darllen promptiau yn uchel, er mwyn eu defnyddio i greu offer adnabod lleferydd.
Mae tair iaith newydd yn cael eu hychwanegu, sef y Gymraeg, Almaeneg, a Ffrangeg.
Yn dilyn cymorth gan yr Uned Technolegau Iaith yng Nghanolfan Bedwyr, Prifysgol Bangor, mae'r Gymraeg wedi cyrraedd y brig o ran defnydd.
Dywedodd Dewi Bryn Jones, prif beiriannydd meddalwedd yr uned: "Fe wnaethon ni ddatblygu'r ap Paldaruo rhyw ddwy flynedd cyn i Mozilla ddechrau'r project Common Voice.
"Roedd Mozilla wrth eu bodd ein bod ni eisoes wedi gwneud project o'r fath, ac yn awyddus i fanteisio ar ein profiad ni.
"Fe benderfynon ni gydweithio â nhw felly, a rhoi ein holl bromptiau iddyn nhw fel man cychwyn ar gyfer eu set o bromptiau Cymraeg.
"Dyna sut mae'r Gymraeg yn un o'u hieithoedd cyntaf nhw yn y project yma, yn wahanol iawn i sefyllfa ieithoedd lleiafrifol fel arfer," meddai.
Mae Mozilla nawr yn gwahodd unrhyw un i recordio eu lleisiau ar wefan Common Voice, ac mae'r brifysgol yn gobeithio bydd y bartneriaeth yn tyfu.