Geraint Thomas yn arwain y Criterium du Dauphine
- Cyhoeddwyd

Dau gymal sydd ar ôl yn y Criterium de Dauphine
Mae'r seiclwr Geraint Thomas yn arwain ras y Criterium de Dauphine ar ôl gorffen yn ail ym mhumed cymal y ras ddydd Gwener.
Y Gwyddel Dan Martin lwyddodd i ennill y cymal, gyda Thomas bedair eiliad ar ei ôl.
Mae'r canlyniad yn golygu bod Thomas yn arwain y ras o 69 eiliad, gyda'r Eidalwr Damiano Caruso - oedd yn gyntaf cyn y pumed cymal - yn yr ail safle.
Seiclwr arall Team Sky, Gianni Moscon sy'n drydydd, ar yr un amser â Caruso.
Thomas sy'n arwain Team Sky yn y Dauphine yn absenoldeb yr arweinydd arferol, Chris Froome.
Bydd y ras yn dod i ben ddydd Sul, gyda'r ddau gymal olaf yn rhai mynyddig.