'Hurt peidio agor' canolfannau cyffuriau yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Byddai'n hurt peidio agor ystafelloedd cyffuriau yn y DU er mwyn lleihau nifer y marwolaethau, yn ôl un elusen ddigartrefedd.
Dywedodd Lindsay Cordery-Bruce, prif weithredwr elusen The Wallich, y byddai caniatáu i ddefnyddwyr gymryd cyffuriau mewn lleoliad diogel yn arbed bywydau.
Yr her fwyaf, meddai, fyddai newid deddfwriaethau a pholisi.
Ond mae mam un ferch oedd yn gaeth i heroin wedi dweud y byddai cyfleusterau o'r fath yn annog pobl i barhau i ddefnyddio cyffuriau.
'Cymaint o fanteision'
Mae canolfannau cyffuriau o'r fath, sy'n cael eu hadnabod fel fix rooms, yn caniatáu i ddefnyddwyr gymryd cyffuriau mewn lleoliad clinigol sy'n cael ei oruchwylio.
Ond mae'r Swyddfa Gartref wedi dweud nad oes "unrhyw fframwaith cyfreithiol" fyddai'n caniatáu cyfleusterau o'r fath yn y DU ar hyn o bryd, ac nad oedd ganddyn nhw "unrhyw gynlluniau i'w cyflwyno".
Mae Comisiynydd Heddlu Gogledd Cymru, Arfon Jones wedi dweud yn y gorffennol ei fod o blaid canolfannau cyffuriau o'r fath, ac y gallai Wrecsam fod yn lleoliad i dreialu un.
Yn ddiweddar fe wnaeth y Swyddfa Gartref atal ymgais gan Gyngor Dinas Glasgow i gyflwyno cyfleuster tebyg.
"Mae cymaint o dystiolaeth o Ewrop sy'n dangos eu bod yn ffordd effeithiol o gysylltu gyda phobl, i gael pobl oddi ar y strydoedd, i sicrhau eu bod yn pigo'u hunain yn iawn, a bod y deunydd yn cael ei waredu'n saff," meddai Ms Cordery-Bruce.
"Mae cymaint o fanteision byddai'n hurt peidio'u cael nhw yn y DU."
Ychwanegodd Caroline Phipps, prif weithredwr gwasanaeth lleihau niwed cyffuriau ac alcohol Barod, fod y syniad yn gweithio'n "wych" yn llefydd fel Barcelona a gogledd America.
"Mae'n bwysig cael y dystiolaeth ac fe ddylen ni edrych ar sut y byddai'n gweithio yng Nghymru."
'Ddim am weithio'
Fe wnaeth un ddynes o Gaerdydd orfod gofalu am ei ŵyr am chwe blynedd oherwydd bod ei merch yn gaeth i heroin.
Llwyddodd ei merch i ddod a'i dibyniaeth ar gyffuriau i ben yn y diwedd wrth ddefnyddio cyffur methadone, ond dyw ei mam ddim yn credu mai canolfannau cyffuriau yw'r ateb.
"Rydych chi'n agor ystafelloedd iddyn nhw eu defnyddio ond maen nhw'n lladd eu hunain a dydyn nhw ddim yn gwneud unrhyw beth am y peth," meddai.
"Agorwch 'stafelloedd i siarad â nhw a'u cael nhw oddi ar gyffuriau. Dwi'n gwybod bod pobl yn cymryd cyffuriau mewn parciau a llefydd eraill, ond byddai'r 'stafelloedd yma'n fwy o gymhelliant iddyn nhw wneud."
Dywedodd y Swyddfa Gartref mai eu polisi nhw yw i "atal defnydd o gyffuriau yn ein cymunedau a chefnogi pobl ifanc sy'n ddibynnol ar gyffuriau drwy drin ac adfer".
Ychwanegodd Llywodraeth Cymru fod y maes yn gyfrifoldeb i Lywodraeth y DU a bod adolygiad diweddar gan eu panel ar gamddefnyddio cyffuriau heb argymell cyflwyno canolfannau cyffuriau o'r fath yng Nghymru.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Tachwedd 2016
- Cyhoeddwyd28 Ebrill 2018