Damwain awyren ysgafn yn Sir Fynwy
- Cyhoeddwyd

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r ardal toc wedi 11:00 fore Sul
Mae'r gwasanaethau brys yn delio â damwain sy'n cynnwys awyren ysgafn ger Rhaglan yn Sir Fynwy.
Cadarnhaodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru eu bod wedi cael eu galw i'r ardal toc wedi 11:00 fore Sul.

Mae Heddlu Gwent hefyd wedi trydar eu bod yn delio "â damwain sy'n cynnwys awyren fechan" a'u bod yn cynorthwyo gwasanaethau brys eraill mewn lleoliad yn Nhre'r-gaer ger Rhaglan.
Does dim gwybodaeth hyd yma am union natur y ddamwain na chwaith a oes unrhyw un wedi cael ei anafu.
Mae'r Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Awyr hefyd wedi cadarnhau eu bod wedi anfon tîm i'r ardal brynhawn Sul.