Cyn-faer Penfro'n gwadu troseddau rhyw hanesyddol

  • Cyhoeddwyd
David Boswell

Mae cyn-faer Penfro wedi pledio'n ddieuog i gyfres o droseddau rhyw hanesyddol yn erbyn plant.

Mae David Boswell, 57, o Ddoc Penfro yn gwadu un cyhuddiad o dreisio a saith cyhuddiad o ymosod yn anweddus.

Mae'r cyhuddiadau'n dyddio o'r cyfnod rhwng 1991 a 1994 ac yn ymwneud â dau blentyn oedd o dan 13 oed ar y pryd.

Ar ddiwrnod cyntaf yr achos yn Llys y Goron Abertawe fe glywodd y rheithgor dystiolaeth gan fenyw sy'n honni iddo ymosod arni yn anweddus pan roedd hi'n blentyn.

Dywedodd wrth y llys: "Roedd yn eithaf treisgar ac roeddwn yn ei ofni."

Ychwanegodd ei bod heb fynd â'r mater ymhellach ar y pryd oherwydd nad oedd wedi llawn ddeall beth roedd wedi digwydd iddi. Fe fydd yn cael ei chroesholi ddydd Mawrth.

Fe wnaeth Mr Boswell, cyn-filwr fu hefyd yn weithgar gyda'r Lleng Brydeinig, adael ei swydd fel maer Penfro ar ôl cael ei arestio.

Mae'r achos yn parhau.