Cofio'r tywysogesau sydd 'ar goll' o hanes Cymru

  • Cyhoeddwyd
GwenllianFfynhonnell y llun, Wikipedia
Disgrifiad o’r llun,

Cofeb i Gwenllian ar gopa'r Wyddfa

Mae 12 Mehefin yn nodi pen-blwydd y Dywysoges Gwenllian, merch Llywelyn Ein Llyw Olaf, a gafodd ei geni yn 1282.

Erbyn diwedd y flwyddyn, roedd ei thad wedi cael ei ladd gan fyddin Lloegr, ac yn fuan ar ôl ei phen-blwydd yn flwydd, cafodd ei dal a'i rhoi mewn lleiandy yn Sempringham, Sir Lincoln.

Yno y buodd hi hyd ei marwolaeth yn 54 oed.

Roedd Elinor Wyn Reynolds ar Raglen Aled Hughes fore Mawrth, 12 Mehefin, i drafod ei thynged trist a rhai o dywysogesau eraill Cymru, sydd ddim yn cael eu trafod yn aml.

"Roedd y dywysoges Gwenllian yn cael ei gweld fel bygythiad anferthol gan y Saeson ac fe'i chipwyd hi i Sempringham," meddai.

"Mae hi'n bur debyg na chlywodd hi - merch Llywelyn Ein Llyw Olaf - erioed air o Gymraeg.

"Pwy a ŵyr beth fyddai wedi digwydd tasai hi wedi cael aros yng Nghymru. Byddai hi wedi priodi, byddai hi wedi cael plant, a byddwn ni, o bosib yn edrych ar Gymru dra gwahanol erbyn heddi'."

Fel yr eglura Elinor, roedd tywysogaethau Gwynedd, Deheubarth a Phowys yn creu cysylltiadau gwleidyddol â'i gilydd drwy briodas ac hefyd yn creu cyswllt â'r Normaniaid - yn amlwg, roedd rôl y merched yma yn hanfodol yn hyn o beth.

"Cafodd Nest ferch Rhys ap Tewdwr 15 o blant. Roedd ei gwaddol hi'n anferth - daethon nhw'n bobl bwysig. Roedd Angharad ferch Nest yn fam i Gerallt Gymro.

"Roedd y dywysoges Siwan, gwraig Llywelyn Fawr, yn ddiplomydd - yn fenyw fawr yn ngwleidyddiaeth Cymru. Rydyn ni'n gwybod ei bod hi wedi cael perthynas gyda Gwilym Brewys - ond roedd ganddi ferch, Gwladys Ddu, a briododd un o feibion Gwilym Brewys."

Disgrifiad,

Elinor Wyn Reynolds yn trafod tynged drist y Dywysoges Gwenllian

Mae yna nifer o dywysogesau eraill yn ein hanes hefyd, ond yn aml, nid oes llawer o drafod arnyn nhw, meddai Elinor, er eu pwysigrwydd yn hanes y tywysogaethau.

"Mae rhai yn fwy adnabyddus na'i gilydd, ond yn aml, y frawddeg sy'n codi ydy: 'Ychydig a wyddys amdanynt'.

"Dwi'she gwybod mwy am y merched yma, achos mi oedden nhw'n gorfod cadw eu tir o fewn y llys.

"O ran hanes, y dynion sydd oruchaf. Ond mae'r menywod yn eithriadol o bwysig, achos heblaw am y merched yma, byddai'r tywysogaethau yma ddim wedi para' a ddim wedi goroesi.

"'Canmolwch yn awr ein gwŷr enwog' y'n ni'n ei ddweud. Ond mae eisiau i ni nawr 'ganmol ein gwragedd enwog'."