Difrod i gofeb hanesyddol y Dywysoges Gwenllian yn 'drist'

  • Cyhoeddwyd
CofebFfynhonnell y llun, Cymdeiths y Dywysoges Gwenllian

Mae cofeb a osodwyd gan gymdeithas ar gopa'r Wyddfa i gofio am ferch Llywelyn ein Llyw Olaf 11 mlynedd yn ôl wedi ei thynnu oddi yno a'i difrodi.

Gyda chymorth Parc Cenedlaethol Eryri, mae aelodau o Gymdeithas Gwenllian wedi bod yn ymchwilio i'r digwyddiad.

Mae aelodau yn credu fod y gofeb wedi'i dwyn gan rywrai yn ystod yr wythnosau diwethaf, cyn cael ei chludo lawr llwybr Llanberis a'i gadael yno ar ben hen stablau.

Dywedodd Tecwyn Vaughan Jones sy'n aelod o Gymdeithas y Dywysoges Gwenllian fod y gofeb wedi'i gosod ar gopa'r Wyddfa am reswm arbennig.

Ffynhonnell y llun, Cymdeiths y Dywysoges Gwenllian
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y gofeb wedi'i gosod ar gopa'r Wyddfa

"Roedd Gwenllian yn ferch i Llywelyn ap Gruffydd sef, Llywelyn ein Llyw Olaf, Arglwydd Eryri a chopa'r Wyddfa yw'r man uchaf yn ei diriogaeth."

Wrth ymateb i'r difrod dywedodd Mr Jones: "Tyda ni ddim yn siŵr beth sydd wedi digwydd i'r gofeb. Mae rhywun neu rywrai wedi ei chludo hi oddi yno.

"Hwyrach fod y gofeb wedi datgysylltu oddi ar y graig yn y tywydd enbyd maen nhw'n gael ar gopa'r wyddfa, neu mae rhywun wedi gwneud hyn yn fwriadol.

"Tydi hi heb ei difrodi'n llwyr ond mae 'na ychydig bach o ddifrod iddi ac mae'n anodd credu fod 'na bobl sy'n gwneud ymyrraeth fel hyn gyda gwrthrych sydd mor arwyddocaol.

"Dan ni fel cymdeithas yn tristáu o feddwl am dynged y gofeb yma gan y dihirod yma. Tyda ni ddim yn siŵr o gostau trwsio'r gofeb a hefyd 'wrach os fydd hi'n ddoeth ei rhoi hi'n ôl yn yr union le," meddai.