Caerdydd yn arwyddo Josh Murphy a Greg Cunningham
- Cyhoeddwyd
Mae clwb pêl-droed Caerdydd wedi arwyddo'r asgellwr Josh Murphy am ffi sydd heb ei ddatgelu, ond credir ei fod tua £11m.
Os yw'r ffigwr yna'n gywir, mae'n gyfartal gyda'r ffi uchaf erioed i'w dalu gan y clwb. Fe wnaeth yr Adar Gleision dalu £11m am Gary Medel o Sevilla yn 2013.
Sgoriodd y chwaraewr 23 oed 11 gôl i Norwich y tymor diwethaf, ac mae wedi arwyddo cytundeb pedair blynedd gyda'r Adar Gleision.
Mae'r amddiffynnwr Greg Cunningham hefyd wedi ymuno a'r clwb o Preston North End am ffi sydd heb ei ddatgelu, ond mae disgwyl i'r ffigwr fod yn tua £4m.
'Prif darged'
Yn ôl rheolwr Caerdydd, Neil Warnock, Murphy oedd ei "brif darged" ers ennill dyrchafiad.
Fe ddatblygodd yr asgellwr drwy system academi Norwich gyda'i efaill Jacob, sydd bellach yn chwarae i Newcastle United.
Chwaraeodd Murphy i'r clwb 108 o weithiau dros bum tymor gan sgorio cyfanswm o 20 gôl.
Dywedodd Warnock ei fod wedi "gwylio Josh ers blynyddoedd" a'i fod o wastad wedi ei "gyffroi" wrth i Murphy redeg gyda'r bel.
Greg Cunningham
Mae'r amddiffynnwr Gweriniaeth Iwerddon yn ymuno o Preston North End gan arwyddo cytundeb tair blynedd a hanner gyda'r clwb.
Ceisiodd y clwb ddenu'r amddiffynnwr ochr chwith i dde Cymru yn ôl ym mis Awst y llynedd ond fe wrthodwyd eu cynigion gan Preston.
Fe ymddangosodd yr amddiffynnwr 103 o weithiau i Preston ar ôl ymuno o Bristol City tair mlynedd yn ôl.
Dywedodd Warnock: "Rydym ni'n falch iawn o allu ychwanegu ei brofiad a'i wybodaeth at y garfan."
Ychwanegodd: "Dwi'n rhagweld y bydd Greg yn cynnig cryfder gwirioneddol i ni lawr yr asgell chwith ynghyd a Joe Bennett, a gafodd dymor ardderchog y llynedd".