Merched Cymru ar frig grŵp A ar ôl trechu Rwsia 3-0
- Cyhoeddwyd
Mae tîm merched Cymru gam yn nes at gyrraedd Cwpan y Byd 2019 yn dilyn buddugoliaeth gyfforddus o 3-0 yn erbyn Rwsia yng Nghasnewydd.
Aeth Cymru ar y blaen diolch i gôl Kayleigh Green yn fuan yn yr ail hanner.
Fe ychwanegodd Green yr ail i Gymru yn dilyn chwarae taclus, cyn i Natasha Harding goroni'r perfformiad gyda'r drydedd.
Mae'r canlyniad yma yn golygu fod Cymru ar frig grŵp A gydag un gêm yn weddill, ac yn sicrhau eu lle yn y gemau ail-gyfle.
Hanner cyntaf rhwystredig
Roedd rhaid i'r ddau ddim ennill y gêm er mwyn cynnal unrhyw obaith o gyrraedd Cwpan y Byd, ond rhwystredig iawn oedd yr hanner cyntaf.
Llwyddodd Cymru i gryfhau wrth i'r gêm fynd yn ei blaen, ac erbyn diwedd yr hanner cyntaf roedden nhw'n rheoli'r chwarae o flaen torf o 1,200 ym Mharc Spytty.
Bron i'r pwysau arwain at gôl cyn hanner amser pan gafodd ergyd Helen Ward ei chlirio gan amddiffynnwr canol Rwsia.
Fe apeliodd tîm Jayne Ludlow am ddwy gic o'r smotyn ar ôl llawio posib ond anwybyddu'r cwynion wnaeth y dyfarnwr o'r Ffindir.
Green yn serennu
Dechreuodd Cymru'r ail hanner ar dân wrth i Kayleigh Green ymateb yn sydyn i groesiad Rachel Rowe o'r asgell chwith, er mwyn taro'r bêl yn gadarn i gefn y rhwyd o ongl dyn.
Dal i bwyso wnaeth Cymru wrth i'r hyder lifo drwy'r tîm, ac ar ddiwedd symudiad campus gan ymosodwyr Cymru, llwyddodd Green i godi'r bêl dros y golwr gydag ergyd gywir.
Ar ôl yr ail gôl roedd amddiffyn Rwsia i'w weld yn colli ei siâp ac roedd Cymru yn creu un cyfle ar ôl y llall.
Rhedodd Natasha Harding yn glir o'r amddiffyn cyn taro'r bêl yn isel i gornel y rhwyd ar yr ôl 68 munud i sicrhau'r fuddugoliaeth.
Dyma'r seithfed gêm yn olynol i Gymru beidio ag ildio gôl.
Roedd dathliadau yn y dorf ac ar fainc Cymru wedi'r chwiban olaf wrth i ferched Jayne Ludlow lwyddo i sicrhau lle Cymru yn y gemau ail-gyfle.
Golygai'r fuddugoliaeth yn erbyn Rwsia fod Cymru ar frig grŵp A, wedi chwarae un gêm yn fwy na Lloegr yn yr ail safle.
Bydd Cymru yn wynebu tîm Phil Neville ar 31 Awst i benderfynu pwy fydd yn gorffen ar frig y tabl ac yn mynd i Gwpan y Byd yn Ffrainc 2019.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Mehefin 2018