Posib gorfod aros blynyddoedd cyn newid cladin peryglus
- Cyhoeddwyd
Gall tenantiaid mewn blociau o fflatiau uchel yng Nghymru aros am flynyddoedd cyn i gladin peryglus gael ei newid oherwydd dryswch am bwy sy'n gyfrifol am y gost.
Dywedodd Prif Ymgynghorydd Tân ac Achub Llywodraeth Cymru, Des Tidbury, y gall trigolion wynebu blynyddoedd o ansicrwydd tra bod atebolrwydd yn cael ei gadarnhau.
Daw'r rhybudd bron i flwyddyn union ar ôl trychineb Tŵr Grenfell, lle bu farw 72 o bobl mewn tân.
Yn ôl Llywodraeth Cymru byddant yn cwrdd â pherchnogion a datblygwyr yr adeiladau sydd wedi eu heffeithio i holi beth yw'r bwriad o ran ariannu'r gwaith adfer.
'Proses gymhleth'
Mae cyfanswm o 15 adeilad yng Nghymru wedi eu darganfod i fod â'r un math o gladin a Thŵr Grenfell - 12 yn y sector breifat a thri bloc o dai cymdeithasol.
Er bod y gwaith adfer ar y tai cymdeithasol yn cael ei ariannu gan y llywodraeth, mae ansicrwydd ynglŷn ag atebolrwydd yr adeiladau eraill.
Mae'r broses yn "andros o gymhleth" meddai Mr Tidbury, gan fod "rhaid edrych ar bob achos ar wahân".
Dywedodd Douglas Haig, is-gadeirydd Cymdeithas y Landlordiaid Preswyl y gallai'r broses gymryd "hyd at ddegawd".
"Rydym ni'n gofyn i Lywodraeth Cymru roi benthyciad er mwyn newid y cladin, fel bod pobl yn gallu byw gyda sicrwydd bod eu hadeilad yn ddiogel," meddai.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru mai "diogelwch tenantiaid Cymru yw ein blaenoriaeth" a'u bod "wedi cydweithio'n agos gyda landlordiaid, perchnogion ac asiantaethau" i sicrhau fod pobl yn ddiogel.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Chwefror 2018
- Cyhoeddwyd18 Hydref 2017