Rhybuddio rhieni am herio canlyniadau mabolgampau

  • Cyhoeddwyd
Yasgol Mynydd BychanFfynhonnell y llun, Wales news service
Disgrifiad o’r llun,

Mae Pennaeth Ysgol Mynydd Bychan, Sian Evans wedi anfon llythyr yn rhybuddio rhieni

Mae athrawon mewn ysgol yng Nghaerdydd yn anhapus gyda rhieni sy'n herio canlyniadau mabolgampau gyda thystiolaeth fideo.

Mae ambell riant wedi bod yn ffilmio'r campau wrth wylio eu plant yn cystadlu yn Ysgol Mynydd Bychan yn ardal Cathays, cyn herio canlyniadau'r athrawon.

Mae rhieni wedi mynnu y dylai'r canlyniadau gael eu newid o ganlyniad i'r "dystiolaeth", ond mae'r ysgol wedi gwrthod eu protestiadau.

Dywedodd Pennaeth Ysgol Mynydd Bychan, Sian Evans ei bod wedi anfon llythyr at rieni yn eu rhybuddio i ildio eu cwynion a bod "penderfyniad yr athrawon yn derfynol".

'Gair olaf i'r athrawon'

Yn y llythyr, dywedodd: "Yr aelodau o staff ar y llinell derfyn, a neb arall, sydd â'r gair olaf ynglŷn â phwy orffennodd yn gyntaf, ail ac yn drydydd.

"Yn anffodus, yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae rhai o'r rhieni wedi bod yn mynd at staff gyda thystiolaeth ffilm ar declynnau fel iPads i brofi y dylai eu plentyn fod wedi derbyn safle uwch mewn ras, ac mae ambell i sylw yn cael ei wneud ar Facebook.

"Os bydd hyn yn digwydd eto, mae 'na bosibilrwydd y byddai'n rhaid i ni ystyried newid yr elfen gystadleuol o'r mabolgampau."

Mae gan yr ysgol Gymraeg 200 o ddisgyblion ac mae'r gystadleuaeth mabolgampau yn cael ei gynnal yn flynyddol yn y Ganolfan Athletau Cenedlaethol.