Cymru am roi cais i gynnal Cwpan y Byd Rygbi Merched

  • Cyhoeddwyd
Kerin LakeFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Mae Cymru wedi cadarnhau eu diddordeb mewn cynnal Cwpan Rygbi'r Byd i Ferched yn 2021.

Cyfanswm o chwe gwlad sydd wedi datgan eu diddordeb, y nifer fwyaf i ddangos diddordeb i gynnal y gystadleuaeth erioed.

Awstralia, Lloegr, Ffrainc, Seland Newydd a Phortiwgal yw'r gwledydd eraill ar y rhestr, ac mae gan y chwe undeb tan 10 Awst i gyflwyno eu ceisiadau i World Rugby.

Bydd y penderfyniad terfynol yn cael ei wneud gan Gyngor World Rugby mewn cyfarfod ym mis Tachwedd 2018.

Dywedodd Cadeirydd World Rugby, Bill Beaumont fod y diddordeb mewn cynnal y gystadleuaeth yn adlewyrchu'r "cyffro a'r momentwm" tu ôl i rygbi merched ar hyn o bryd.