Cau ysgol Llanfair-ym-Muallt wedi i sylwedd achosi salwch

  • Cyhoeddwyd
Llanfair ym MualltFfynhonnell y llun, Google

Cafodd ysgol uwchradd ym Mhowys ei chau ddydd Mercher, wedi adroddiadau fod disgyblion a staff yn teimlo'n sâl.

Cyhoeddodd Heddlu Dyfed-Powys eu bod wedi eu galw i Ysgol Uwchradd Llanfair-ym-Muallt ychydig wedi 11:00 yn dilyn adroddiadau fod sylwedd wedi ei ddarganfod a oedd yn achosi trafferthion anadlu ac anhwylder.

Cafodd llanc 16 oed ei arestio wrth i'r ymchwiliad i'r hyn ddigwyddodd barhau.

Fe effeithiodd yr anhwylder ar tua 20 o bobl a gafodd eu trin gan griwiau ambiwlans, cyn cael eu hanfon adref.

Nid oedd yr ysgol ar agor ddydd Iau, a cyhoeddodd yr heddlu na fyddai'n agor eto tan 18 Mehefin.

Ychwanegodd eu datganiad y byddai trefniadau i ddisgyblion sy'n gwneud arholiadau ddydd Gwener.