Cyhoeddi enwau dau fu farw mewn gwrthdrawiad ar yr M4
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu'r De wedi cyhoeddi enwau dau o bobl fu farw wedi gwrthdrawiad ar draffordd yr M4 ddydd Mawrth.
Yn gynharach fore dydd Iau, daeth cadarnhad fod dyn gafodd anafiadau difrifol yn y gwrthdrawiad ar y draffordd ger ardal Y Pîl ym Mhen-y-bont ar Ogwr wedi marw.
Mae'r heddlu bellach wedi cyhoeddi mai Timothy Peter Grace, 31 o Dreboeth yn Abertawe oedd ei enw.
Cyhoeddodd yr heddlu hefyd mai enw'r ddynes fu farw'n syth wedi'r gwrthdrawiad oedd Sarah-Jayne Thomas 28 oed o ardal Penlan yn Abertawe.
Wrth roi teyrnged iddi, dywedodd ei theulu ei bod Sarah-Jayne yn ferch, chwaer a mam berffaith: "Roedd hi'n fam gariadus i Harley a Jason, naw a chwech oed.
"Bydd ei theulu a phawb sy'n ei nabod yn ei cholli."
Mae teulu Timothy Grace hefyd wedi rhoi teyrnged gan ddweud byddai'n cael ei "fethu'n arw."
"Bydd yn gadael dau o blant naw a dwy a hanner ar ôl. Fe fydd Tim, yn cael ei fethu'n arw gan ei deulu a'i ffrindiau," meddai.
Mae swyddogion arbenigol yn cynnig cymorth i deuluoedd y ddau.
Digwyddodd y gwrthdrawiad toc wedi 15:00 ddydd Mawrth, ac mae'r heddlu'n parhau i ofyn unrhyw un allai fod â gwybodaeth bwysig am y gwrthdrawiad i ffonio 101, a dyfynnu'r cyfeirnod 1800212882.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Mehefin 2018
- Cyhoeddwyd12 Mehefin 2018