Teimlo'n unig, ynghanol dinas llawn pobl
- Cyhoeddwyd
Mae unigrwydd yn gallu effeithio ar bobl o bob oed. Yn draddodiadol yn cael ei gysylltu â hen bobl, y dyddiau yma, mae hi'n dod yn amlwg ei fod yn effeithio ar fwy a mwy o bobl iau.
Mae Michelle Lloyd, sy'n ei thridegau cynnar, yn wreiddiol o Fairbourne, ger Dolgellau, ond bellach yn byw yn Llundain. Yma, mae hi'n siarad yn agored iawn am ei thrafferthion iechyd meddwl a'i theimlad o unigrwydd.
"Oh god, dwi mor unig" - faint o weithiau ydyn ni i gyd wedi dweud hynny? Ond beth mae unigrwydd wir yn ei olygu? Beth sy'n cyfri' fel unigrwydd? A pham bod cymdeithas ddim yn ei gymryd fwy o ddifri'?
Dwi wastad wedi bod yn 'chydig o loner - oes, mae gen i ffrindiau, ond dwi erioed wedi cael toreth ohonyn nhw, ac unwaith i fy mhroblemau iechyd meddwl ddod i'r amlwg yn fy ugeiniau, sleifiodd yr unigrwydd i mewn.
Mae cynnal perthynasau, efo ffrindiau a theulu neu berthynas ramantaidd, yn anodd yn gyffredinol; mae angen gweithio arnyn nhw'n gyson - ond mae cynnal perthynasau pan ti'n byw efo gorbryder dwys, ac ar adegau, iselder sy'n dy anablu di, yn anhygoel o anodd.
Yn anodd i'r person sy'n brwydro problemau iechyd meddwl, ac anodd i'r bobl sy'n ceisio eu caru a dangos eu bod yn malio.
Wrth gwrs, dydi pob person unig ddim yn diodde' o gyflwr iechyd meddwl, ond mae hi'n hawdd gweld sut mae'r ddau yn mynd law-yn-llaw mor aml.
"Sut alli di fod yn unig?"
Mae pobl yn aml yn gofyn i mi "sut alli di fod yn unig?" - cwestiwn dwi'n aml yn ei ofyn i mi fy hun.
Dwi'n byw mewn dinas wych, lewyrchus, amlochrog, mae gen i swydd sy'n golygu fy mod i yng nghwmni pobl yn ddyddiol, ac mae gen i ffrindiau (dim llawer, ond mae gen i rai).
A dyna pam fod unigrwydd yn beth mor beryglus - mae'n anodd ei weld ac oherwydd hynny yn ddinistriol, mae'n aml yn cael ei fychanu, felly mae'n anodd iawn siarad amdano.
Mae bywyd i mi ynglŷn â dilysrwydd; dwi isho teimlo cysylltiad â rhywun, dwi eisiau bod yn rhan o rywbeth, ond dwi wastad yn teimlo ar yr ymylon.
Mae gwneud cysylltiadau gonest, rhai alla' i ymddiried ynddyn nhw, yn teimlo'n anoddach nag erioed. Ond y cysylltiadau hynny yw beth sy'n gwneud i ni deimlo werth rhywbeth ac yn fyw.
Galla' i fynd ddyddiau heb deimlo'r cysylltiad yna - hyd yn oed mwy rŵan mod i'n sengl ac yn byw fy hun.
Mae penwythnosau yn arbennig o anodd, achos dwi'n aml ddim yn gweld neb. Dwi yr oed hwnnw lle mae fy ffrindiau i gyd mewn perthynasau difrifol, wedi priodi neu efo plant, felly maen nhw'n brysur ar benwythnosau.
Dwi hefyd yn byw yn bell i ffwrdd o adref a fy nheulu, felly mae amser gyda fy mrodyr, rhieni, nith neu'r ci annwyl Miley, yn brin.
Felly dwi'n treulio fy mhenwythnosau fel arfer yn dibynnu llawer ar alcohol neu'n gorwario ar ddillad, jyst er mwyn cael rhywbeth i'w wneud.
"Y lle mwyaf unig ar y ddaear"
Mae Llundain wir yn elyn i'r unig. Oes, mae ganddo boblogaeth o dros 10 miliwn, ond ar adegau mae'n gallu teimlo fel y lle mwyaf unig ar y ddaear.
Mae pawb wedi ymgolli yn eu bywydau eu hunain, ac mae pawb fel tasen nhw'n gwybod yn union i ble maen nhw'n mynd a beth maen nhw'n ei 'neud; ac os wyt ti'n teimlo braidd yn fregus, mae o wir yn gallu dy fwyta a dy boeri allan.
Wrth gwrs, dwi'n ymwybodol fod fy nheimladau i o arwahân-rwydd ac unigrwydd yn cael ei gynnal a'i gryfhau gan fy iechyd meddwl gwael.
Mae pyliau o orbryder cymdeithasol yn golygu mod i wedi gorfod canslo cynlluniau funud ola' yn aml, a dim ond hyn a hyn o dosturi gall pobl ei roi i ti.
Mae pobl yn naturiol yn cael llond bol o ofyn i ti wneud pethau pan mae gen ti hanes o ganslo - ond weithiau mae meddwl am adael dy hafan ddiogel ar y soffa yn annealladwy o anodd.
Mae angen mwy o ddealltwriaeth o ran y syniad o unigrwydd a pha mor gymhleth ydy o - dydy o ddim jyst am gael pobl o dy gwmpas di - mae o ynglŷn â theimlo'r cyswllt 'na. Mae o ynglŷn â chael perthynasau ystyrlon, go iawn. Mae o ynglŷn â theimlo dy fod ti'n haeddu bod yn fyw a theimlo bod rhywun wir yn poeni dy fod ti'n fyw.
Ac os wyt ti ddim wedi profi'r teimladau yna, wnei di ddim deall pa mor gryf a dwfn y gallan nhw fod.
Ein hamser a'n sylw yw'r rhodd mwyaf gwerthfawr y gallwn ei roi i unrhyw un, ac os allwn ni jyst meddwl am hynny ychydig mwy, dwi'n meddwl y gallwn ni wneud newid gwirioneddol i fywydau pobl sy'n ei chael hi'n anodd.
Anfon llythyr neu gerdyn pen-blwydd yn hytrach na neges Facebook, neges destun ystyrlon yn lle 'like' ar Instagram, a beth am alwad ffôn bob hyn a hyn?
Maen nhw i gyd yn bethau syml, ond yn bethau allai adael i bobl wybod eu bod nhw'n bwysig ac, yn y pen draw, ddim ar eu pen eu hunain.