Ymestyn caniatâd i ehangu maes awyr Ceredigion
- Cyhoeddwyd
Mae cynghorwyr wedi rhoi cyfle arall i adnewyddu ac ehangu maes awyr yng Ngheredigion.
Cafodd caniatâd llawn ei roi yn 2008 i adeiladu seilwaith newydd ar safle Maes Awyr Gorllewin Cymru ym Mlaenannerch ger Aberporth.
Roedd hynny'n cynnwys canolfan groeso, gorsaf dân, llety a chanolfan hyfforddi technegol, ond nid yw'r gwaith wedi dechrau ers hynny.
Fe wnaeth holl aelodau o'r pwyllgor, ar wahân i un wnaeth ymatal, bleidleisio o blaid ymestyn y caniatâd cynllunio am bum mlynedd ychwanegol.
Y bwriad yw creu 500 o "swyddi o safon uchel a chyfrannu hyd at £25m y flwyddyn i'r economi leol dros 10 mlynedd".
Fe wnaeth y Cynghorydd Peter Davies alw'r cais yn un "pwysig iawn".
Mae gan y cwmni gytundeb gyda'r Weinyddiaeth Amddiffyn i gynnal hediadau awyrennau di-beilot o'r maes awyr, ond mae gan y cyhoedd yr hawl i ddefnyddio'r maes awyr hefyd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Mehefin 2018