Cytundeb McDonald's i gwmni o Lyn Ebwy

  • Cyhoeddwyd
GwelltFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae cwmni pecynnu o Lyn Ebwy ar fin creu 30 o swyddi newydd gan ddyblu ei faint ar ôl cael cytundeb newydd gyda chadwyn tai bwyta McDonald's.

Bydd Transcend Packaging, gafodd ei sefydlu saith mis yn ôl, yn cyflenwi gwellt papur yn hytrach na rhai plastig i McDonald's.

Dywed McDonald's y bydd holl dai bwyta'r cwmni yn newid i wellt papur yn y DU ac Iwerddon yn yr hydref.

"Rwy'n hynod o falch fod McDonald's wedi cymryd y cam yma gan ddangos gweledigaeth wrth geisio lleihau effaith amgylcheddol y diwydiant bwyd," meddai Lorenzo Angelucci, rheolwr gyfarwyddwr Transcend Packaging.

Mae'r cwmni o Flaenau Gwent yn cyflogi 20 o bobl ar hyn o bryd.

Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Bydd McDonald's yn cyflwyno y gwellt papur yn ystod yr hydref

"Fe wnaethom drafod gyda McDonald's a siarad am y ffordd y gallwn ni gyflenwi nwyddau nad oedd yn niweidiol i'r amgylchedd," meddai Mr Angelucci.

"Fe wnaethom hefyd drafod cyfres Blue Plannet II, David Attenborough - â'r dylanwad mawr mae wedi ei gael."

Mae gwellt plastig, oni bai eu bod yn cael eu hailgylchu, yn cymryd cannoedd o flynyddoedd i bydru.

Bod diwrnod mae McDonald's yn defnyddio 1.8 o wellt plastig yn y DU.

Dyw'r newidiadau ddim eto wedi eu cyflwyno i fwytai McDonald's mewn gwledydd eraill, ond mae cynlluniau peilot yn cael eu cynnal mewn bwytai penodol yn yr Unol Daleithiau, Ffrainc a Norwy.