Iceland i roi taleb 10c am ddychwelyd poteli plastig

  • Cyhoeddwyd
Peiriant plastig
Disgrifiad o’r llun,

Dim ond boteli plastig o Iceland fydd yn cael eu derbyn gan y peiriant yn Yr Wyddgrug

Mae'n bosib y bydd cwsmeriaid archfarchnad yn Yr Wyddgrug yn cael taleb 10c am ddychwelyd poteli plastig o ddydd Gwener ymlaen.

Mae cwmni Iceland eisoes wedi gosod peiriannau sy'n ad-dalu talebau am boteli mewn archfarchnadoedd yn Lloegr a'r Alban, ond bellach mae'r cynllun wedi cael ei ymestyn i Gymru.

Mae'n rhaid i'r poteli fod wedi cael eu prynu yn archfarchnad Iceland, sydd a'i bencadlys yng Nglannau Dyfrdwy.

Bwriad y cynllun, sy'n cael ei dreialu am chwe mis, yw gweld pa mor awyddus yw cwsmeriaid i ailgylchu plastig.

Mae hefyd yn rhagflaenu y cynlluniau blaendal y mae Llywodraeth Cymru a llywodraethau eraill wedi eu cefnogi mewn egwyddor.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Dywedodd Gweinidog Amgylchedd Llywodraeth Cymru, Hannah Blythyn: "Mae gostwng gwastraff diangen yn gwbl angenrheidiol i ddiogelu ein hamgylchedd naturiol.

"Rwy'n gwerthfawrogi unrhyw gynlluniau gan gynhyrchwyr a siopwyr i ostwng gwastraff ac mae'n wych gweld cwmnïau o Gymru, fel Iceland, yn gweithredu."

Yr amcangyfrif yw bod 12 miliwn tunnell o blastig yn cyrraedd cefnforoedd y byd bob blwyddyn, gan beryglu bywydau anifeiliaid y môr.

'Taclo llygredd plastig'

Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr Iceland Richard Walker: "Mae'r cynllun yn dangos cymaint ydy ein hymrwymiad i daclo llygredd plastig - rydyn ni hefyd wedi dweud na fyddwn yn pacio ein nwyddau ein hunain mewn plastig ar ôl 2023.

"Mae ein cynllun prawf yn Llundain wedi bod yn llwyddiant ond rydyn ni hefyd yn credu ei bod yn bwysig cael barn eraill yn y DU er mwyn canfod yr heriau a allai fod yn ein hwynebu.

"Mae traean o blastig ond yn cael ei ddefnyddio unwaith - mae poteli plastig yn enghraifft o hyn. Mae ein cynlluniau yn ceisio canfod sut mae gwneud hi'n haws i bobl fod yn ymwybodol o'r amgylchedd."